Skip to main content

Gwaith lliniaru llifogydd i gychwyn yn Stryd Mostyn, Abercwmboi

Flood alleviationn work will take place at Mostyn Street in Abercwmboi

Cyn bo hir bydd y Cyngor yn dechrau ar gynllun lliniaru llifogydd lleol ar raddfa fach yn Stryd Mostyn, Abercwmboi. Bydd y cynllun yn defnyddio cyllid y Cyngor a Llywodraeth Cymru i wella’r seilwaith presennol a lleihau’r perygl o lifogydd yn ystod cyfnodau o law trwm.

Bydd y cynllun gwerth £95,000 yn cyflwyno cyfres o welliannau – gan gynnwys gwella gril cilfach y cwlfert presennol, gosod daliwr gweddillion, gwella'r wal frics bresennol, gosod sgrin gweddillion newydd a chynyddu maint y ceg y cwlfert. Bydd hefyd yn cynnwys clirio llystyfiant o'r sianel agored bresennol.

Bydd y gwaith yma'n digwydd dros gyfnod o chwe wythnos gan ddechrau ddydd Llun, 17 Ionawr.  Hammond ECS Ltd yw'r contractwr a fydd yn cyflawni'r gwaith. Mae trigolion lleol wedi derbyn llythyr yn rhoi gwybod am y cynllun.

Mae'r gwaith yn gofyn am gau ffordd fechan ar ben Stryd Mostyn, y tu allan i rifau 15 i 17. Bydd hyn yn lleihau'r mannau parcio sydd ar gael i drigolion. Bydd modd cerdded at eiddo trigolion trwy gydol y gwaith.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Y gwaith lliniaru llifogydd sydd ar ddod yn Stryd Mostyn yw’r cynllun lleol diweddaraf i fynd i'r afael â pherygl llifogydd. Bydd y gwaith yn cyflawni cyfres o welliannau i’r seilwaith presennol yn y lleoliad dros gyfnod o chwe wythnos. Rydyn ni'n falch iawn o dderbyn cyllid pwysig gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud y gwaith.

“Mae’r gwaith yma'n ddilyniant wedi gwaith draenio gerllaw yng Nglenbói, oddi ar y B4275 Heol Aberdâr, a ddechreuodd yr wythnos ddiwethaf i ailosod y pibellau draenio presennol – cyn i’r orsaf bwmpio gael ei gwella yn ddiweddarach eleni.

“Bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda'i gontractwr i gynnal gwaith yn Stryd Mostyn gyda chyn lleied o darfu â phosib. Mae trigolion wedi cael gwybod y bydd pen uchaf y stryd ar gau i draffig, a bydd llai o le ar y stryd i barcio. Diolch ymlaen llaw i’r gymuned am ei chydweithrediad wrth i ni gyflawni’r cynllun lleol yma.”

Wedi ei bostio ar 12/01/2022