Skip to main content

Diwrnod Cofio'r Holocost 2022

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf, unwaith eto, yn falch o gefnogi Diwrnod Cofio'r Holocost 2022 (Dydd Iau, 27 Ionawr) a'i thema eleni, 'Un Diwrnod.'

Un Diwrnod ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost, un diwrnod pan fyddwn ni'n cofio erchyllterau'r gorffennol, dysgu am yr Holocost, erledigaeth y Natsïaid a’r achosion dilynol o hil-laddiad yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur, yn y gobaith efallai y bydd ‘Un Diwrnod’ yn y dyfodol heb unrhyw hil-laddiad.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor, gyda chyfrifoldeb am faterion Cydraddoldeb ac Amrywioldeb: “Mae Diwrnod Cofio'r Holocost 2022 yn gyfle i ni gyd ddysgu rhagor am y gorffennol a gweithredu heddiw i gael dyfodol gwell. Mae modd i bob un ohonom ni chwarae rhan. Un diwrnod, bydd modd ni i gyd wneud i hyn ddigwydd.

“Mae wastad yn bwysig bod y byd yn dod at ei gilydd ac yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost, ac yma yn Rhondda Cynon Taf rydyn ni'n falch o ddangos ein cefnogaeth a chofio’r holl bobl ddiniwed hynny a gollodd eu bywydau yn ystod yr Holocost a’r hil-laddiadau a’i ddilynodd – penodau yn hanes ein byd na ddylid byth eu hailadrodd.

"Mae arnom ni gyfrifoldeb dros genedlaethau'r dyfodol i sicrhau nad yw erchyllterau fel hyn yn digwydd eto.  Rhaid inni ddysgu o'r gorffennol fel bod modd, un diwrnod, greu dyfodol mwy diogel a gwell ar gyfer ni'n hunain, ein hanwyliaid a'r genhedlaeth nesaf."

Gan weithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cwm Cynon, mae Carfan Partneriaeth Cymunedau Diogel y Cyngor yn cynnal cyfres o achlysuron i goffáu a chofio'r miliynau o bobl a fu farw yn ystod yr Holocost a hil-laddiadau ledled y byd.

Amgueddfa Cwm Cynon – Diwrnod Cofio'r Holocost

Amgueddfa Cwm Cynon sy'n cynnal yr arddangosfa Ffoaduriaid Iddewig yng Nghymru am bythefnos (22 Ionawr - 5 Chwefror) yn coffáu’r Holocost a bywydau ffoaduriaid Iddewig yn Ne Cymru, a’u cyfraniad i’r gymdeithas Gymreig.

Mae’r Amgueddfa hefyd yn cynnal dau achlysur digidol (25 a 29 Ionawr) i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost, gan gynnwys trafodaeth banel sy’n myfyrio ar bwysigrwydd Diwrnod Cofio'r Holocost a pham ei fod yn dal yn berthnasol i bob un ohonom ni. Bydd hwn yn cael ei gofnodi gan y Cyngor a'i gyhoeddi ar ei wefan a'i gyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Mae Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru hefyd yn rhoi sgwrs ar Dabled Cofio’r Holocost, sydd wedi’i lleoli yn Synagog Diwygiedig Caerdydd, sy’n enwi 102 o unigolion sy’n perthyn i aelodau eu Cynulleidfa a fu farw yn ystod yr Holocost.

Tabled Cofio'r Holocost Synagog Diwygiedig Caerdydd

Mae rhagor o wybodaeth am sut i gadw lle ar gyfer y ddau achlysur digidol byw ar gael ar wefan Amgueddfa Cwm Cynon.

Amgueddfa Cwm Cynon

Oherwydd y cyfyngiadau COVID-19 presennol, gofynnwn i’r cyhoedd a staff y Cyngor dreulio peth amser ar y diwrnod, yn niogelwch eu cartrefi a’u gweithleoedd eu hunain, yn adlewyrchu ar yr amser gwaethaf yn hanes y byd pan laddwyd miliynau o bobl yn greulon gan y Natsïaidd, a'r hil-laddiadau a ddilynodd.

Mae Un Diwrnod yn ddatganiad byd-eang ac yn alwad i weithredu ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost 2022, gan annog pob un ohonom ni i fyfyrio ar y gorffennol ac ymdrechu i sicrhau dyfodol gwell.

Os yw’n ddiogel i wneud hynny, rydyn ni'n gofyn i’r cyhoedd gynnau cannwyll ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost 2022, ddydd Iau, 27 Ionawr, gan dynnu sylw at y thema Un Diwrnod bydd modd inni i gyd fyw mewn byd o heddwch.

Rhwng 1941 ac 1945, ceisiodd y Natsïaid ddifa holl Iddewon Ewrop. Caiff yr ymgais systematig wedi'i gynllunio yma i lofruddio pobl Ewrop ei adnabod fel cyfnod yr Holocost.

Erbyn diwedd yr Holocost, roedd chwe miliwn o ddynion, menywod a phlant Iddewig wedi marw mewn getoau, gwersylloedd crynhoi a gwersylloedd difa, neu wedi'u lladd drwy gael eu saethu.

Cafodd dros 1.1 miliwn o bobl eu llofruddio yn Auschwitz-Birkenau – 90 y cant o'r rheiny'n Iddewon.

Wnaethoch chi ddim meddwl am ddoe, ac efallai na fydd yfory yn digwydd, dim ond heddiw y bu'n rhaid i chi ymdopi ag ef ac fe wnaethoch chi ddod drwyddo'r orau roedd modd ichi."

Iby Knill, Goroeswr yr Holocost - #HMD2022

Wedi ei bostio ar 27/01/2022