Skip to main content

Trefniadau newydd ar gyfer tynnu Pont Droed Rheilffordd Llanharan

The removal of Llanharan Railway Footbridge has been rearranged

Mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos gyda Network Rail i aildrefnu tynnu Pont Droed Rheilffordd Llanharan. Rydyn ni bellach yn rhoi rhybudd ymlaen llaw am y gwaith a fydd yn digwydd dros gyfnod o ddwy noson yn ddiweddarach y mis yma.

Mae'r bont droed ger yr A473 Heol Pen-y-bont mewn cyflwr gwael iawn, ac yn rhan o'r broses amnewid roedd disgwyl i'r strwythur presennol gael ei dynnu ar Ddydd San Steffan – gan fanteisio ar gau llinell Network Rail dros yr ŵyl. Fodd bynnag, doedd craen y contractwr ddim yn gweithio ar ddiwrnod y gwaith oherwydd problemau mecanyddol ac felly nid oedd modd bwrw ymlaen â'r gwaith.

Mae'r gwaith bellach wedi'i aildrefnu dros gyfnod o ddwy noson, er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar wasanaethau'r rheilffordd a'r gymuned. Bydd gwaith ar y safle yn digwydd:

  • Dydd Iau, 20 Ionawr (gyda'r nos) - bydd y craen yn cael ei adeiladu yn y safle blaenorol. Bydd dim angen cau'r ffordd ar gyfer y gwaith yma.
  • Dydd Sadwrn, 22 Ionawr (gyda'r nos) hyd at ddydd Sul, 23 Ionawr (7am) - bydd y bont droed yn cael ei thynnu. Bydd yn rhaid cau'r A473 yn y lleoliad yma (hanner nos hyd at 7am), yn debyg i'r cynlluniau ar gyfer Dydd San Steffan ond am gyfnod byrrach (manylion isod).

Mae ffordd amgen i fodurwyr ar hyd yr A473 Heol Pen-y-Bont, yr A473 Heol Newydd, Cylchfan Pen-y-bont, Heol Brynna a Rhodfa'r Bryn - neu'r llwybr yma i'r cyfeiriad arall. Mae map yn amlinellu'r ffyrdd fydd ar gau ar gael yma.

Dylai cerddwyr ddefnyddio'r bont droed gyfagos yn ystod cyfnod cau’r ffyrdd a dilyn y llwybr amgen trwy Ffordd Fynediad Gorsaf Reilffordd Llanharan, Pont Droed Gorsaf Llanharan a Heol y Capel, i'r ddau gyfeiriad.

Cyn bo hir bydd trigolion lleol yn derbyn llythyr yn amlinellu'r trefniadau newydd.

Hoffem ni ddiolch ymlaen llaw i breswylwyr a chymudwyr am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith sydd ar ddod, sy'n rhan o ymrwymiad y Cyngor i amnewid y strwythur sydd wedi'i ddifrodi cyn gynted â phosibl. Ar ôl cwblhau'r gwaith dymchwel, byddwn ni’n bwrw ymlaen ag adeiladu'r bont droed newydd. Dylai'r gwaith ddechrau ar y safle fis Chwefror 2022. Byddwn ni'n rhannu manylion pellach maes o law.

Wedi ei bostio ar 11/01/22