Skip to main content

Adfer Cofeb Ryfel Penrhiwceiber

Penrhiwceiber Clock Tower

Mae gwaith yn parhau i adfer Cofeb Ryfel Penrhiwceiber i'w hen ogoniant yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i gymuned y Lluoedd Arfog.

Mae Cofeb Rhyfel Penrhiwceiber yn ganolbwynt i'r gymuned ers blynyddoedd lawer. Mae'r gofeb, sydd wedi'i nodi'n adeilad rhestredig Gradd II gan Cadw, hefyd yn gweithredu fel cloc y pentref. Er hyn, yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae cyflwr y gofeb wedi dirywio a dydy'r cloc ddim yn gweithio mwyach.

Fodd bynnag, yn ddiweddar cafodd tŵr y cloc a'r paneli pres arysgrifenedig, sy'n coffáu'r milwyr o bentref Penrhiwceiber a fu farw ar faes y gad, eu glanhau a'u hadfer ac adferwyd uwcholeuyddion i adfer harddwch y gofeb yn y nos.

Bellach mae sgaffaldiau wedi'u codi o amgylch pedair ochr y tŵr ac mae wynebau'r cloc wedi'u tynnu ar gyfer rhan olaf y prosiect adfer mawr.

Bydd y clociau’n cael eu hailosod yn 2022 ac unwaith eto yn cadw amser i’r holl bobl leol, gan adfer harddwch y Gofeb Ryfel a’r ardal gyfagos.

Bu Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber, mewn cyfarfod â Chynghorwyr lleol a Swyddogion y Cyngor ar y safle i drafod y cynlluniau.

Mae'r gofgolofn, sydd wedi'i hadeiladu o garreg o hen Gamlas Aberdâr, yn coffáu trigolion Penrhiwceiber a fu farw yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18), yr Ail Ryfel Byd (1939-45) a Rhyfel Corea (1950-53).

Mae'r prosiect i adfer Cofeb Ryfel Penrhiwceiber yn cael ei gydlynu gan aelodau'r ward, y Cyngor a'i Wasanaeth i Gyn-filwyr.

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: “Mae arnom ni ddyled fawr i filwyr ddoe a heddiw, ac rwy’n falch iawn o weld y cynnydd sy’n cael ei wneud ar Gofeb Ryfel Penrhiwceiber.

"Bu farw cymaint o bobl yn ystod y ddau Ryfel Byd a rhyfeloedd eraill. Trwy adfer y gofeb ryfel ym mhentref Penrhiwceiber rydyn ni'n parhau i gofio amdanyn nhw a dyma'r peth lleiaf y gallwn ni ei wneud i'w hanrhydeddu.

“Y Cloc yw canolbwynt y gymuned leol ac mae'n golygu llawer i drigolion lleol, ac roedd hynny'n amlwg yn fy nghyfarfod diweddar gyda Chynghorwyr y ward lleol.

“Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, yn gyn-filwyr a'u teuluoedd, ac mae gyda ni wasanaeth pwrpasol i gyn-filwyr sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth iddyn nhw. Rhaid i ni gofio'r hyn aberthodd y bobl yma ar gyfer ein dyfodol.”

Yn ogystal â glanhau’r lleoliad yn gyffredinol, mae yna hefyd gynlluniau ar waith i osod dodrefn stryd coffaol yn y cyffiniau, fel seddi a biniau sbwriel, ynghyd â gwely blodau coffa wrth droed twr y cloc.

Cyngor Rhondda Cynon Taf oedd un o'r Awdurdodau Lleol cyntaf yng Nghymru i gytuno i Gyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, a chadarnhawyd yr ymrwymiad yma yn 2018.

Mae Gwasanaeth i Gyn-filwyr y Cyngor yn cynnig ystod eang o gymorth am faterion megis Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), Tai, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Budd-daliadau, Cyllid a Chyflogaeth.

Trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddgar AM DDIM, caiff aelodau o'r Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, siarad â swyddogion penodol yn gyfrinachol. Ffoniwch 07747 485 619 neu anfonwch e-bost: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 05/01/22