Skip to main content

Gwybodaeth Bwysig i Gwsmeriaid

Creative Writing

Ymateb i Bandemig Covid-19 ac Amrywiolyn Omicron

O ddydd Mawrth 4 Ionawr 2022 ymlaen bydd y cyfyngiadau canlynol yn dychwelyd i bob Llyfrgell RhCT:

  • Pellter cymdeithasol o 2 fetr rhwng holl ddefnyddwyr y llyfrgell.
  • Systemau un ffordd mewn adeiladau llyfrgell.
  • Cwarantin deunyddiau llyfrgell sydd wedi'u dychwelyd (Eitemau i'w rhoi mewn biniau ailgylchu gwyrdd wrth fynedfa'r llyfrgell am 72 awr).

Rydyn ni'n atgoffa defnyddwyr y llyfrgell bod yn rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb yn y llyfrgell oni bai eich bod wedi'ch eithrio yn feddygol, a bydd yn rhaid defnyddio hylif diheintio dwylo wrth y fynedfa.

Bydd niferoedd cyfyngedig yn cael bod mewn adeilad ar yr un pryd, ac mae'n bosib y bydd aelod o staff y llyfrgell yn gofyn i chi aros cyn mynd mewn i'r adeilad.

Sylwch fod y system Archebu a Chasglu yn dal i fod ar waith.

Bydd unrhyw newidiadau i'r rheolau yma'n cael eu hysbysebu mewn llyfrgelloedd, ar gyfryngau cymdeithasol y cyngor neu ar ein gwefan yn www.rctcbc.gov.uk/llyfrgelloedd

Wedi ei bostio ar 06/01/22