Skip to main content

Adnewyddu trwyddedau ar gyfer pobl sy'n byw mewn parth parcio i breswylwyr

Residential parking permits can now be renewed for use beyond March 2022 CYM

Mae'r Cyngor yn atgoffa pobl sy'n byw mewn parth parcio i breswylwyr bod angen adnewyddu eu trwyddedau blynyddol erbyn 31 Mawrth, a bod modd cwblhau'r broses yma cyn y dyddiad cau.

Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn cynnal ymarfer sylweddol i adnewyddu dros 3,000 o drwyddedau parcio i breswylwyr ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf. Mae'r trwyddedau parcio presennol yn ddilys ar gyfer y flwyddyn ariannol yma, sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, 2022. Mae angen eu hadnewyddu er mwyn eu defnyddio ar ôl 1 Ebrill, 2022.

Mewn ardaloedd lle byddai cerbydau pobl eraill yn ei gwneud hi'n anodd i breswylwyr barcio yno, mae parthau parcio i breswylwyr mewn mannau dynodedig yn mynd i'r afael â hyn. Mae rhestr lawn o barthau parcio RhCT ar wefan y Cyngor.

Bob blwyddyn, gan fod nifer o drwyddedau angen cael eu hadnewyddu yn y Fwrdeistref Sirol, mae'r Cyngor yn gofyn i drigolion wneud cais cyn gynted ag sy'n bosibl. Bydd hyn yn sicrhau bod y trwyddedau yn cael eu dychwelyd mewn pryd.

Y ffordd gyflymaf a hawsaf i adnewyddu trwydded barcio yw drwy wefan y Cyngor – https://www.rctcbc.gov.uk/trwyddedparcionewydd. Mae modd i'r broses gyfan, gan gynnwys gwneud taliad, gael ei chwblhau drwy'r wefan. Fel arall, mae modd i drigolion ofyn am ffurflen gais ar bapur drwy ffonio 01443 425001.

Wedi ei bostio ar 25/01/22