Skip to main content

Cychwyn gwaith adnewyddu ar y Bont Wen er mwyn diogelu'r Strwythur Rhestredig

White Bridge in Pontypridd - the main repair scheme will start from May 23

Mae'r Cyngor wedi cadarnhau y bydd gwaith atgyweirio ac adnewyddu sydd eisoes wedi'i gynllunio yn rhan o gynllun y Bont Wen, Pontypridd, yn cychwyn ar 23 Mai - a hynny i ddiogelu'r strwythur yn dilyn difrod storm.

Cafodd pont Heol Berw, neu'r Bont Wen, ei difrodi yn ystod Storm Dennis ym mis Chwefror 2020 ac roedd rhaid cau’r bont ar unwaith er diogelwch y cyhoedd. Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n agos â Cadw i sicrhau caniatâd i drwsio'r strwythur rhestredig yma sydd â phibell nwy arno.

Cynhaliwyd gwaith atgyweirio cychwynnol ar y bont y llynedd, a chafodd cam cyntaf y gwaith ei gwblhau'n llwyddiannus ym mis Mehefin 2021. Roedd hyn y cynnwys gwaith sgwrio a gwaith atgyweirio'r piler ac argloddiau. O ganlyniad i'r gwaith yma, roedd modd agor y bont dros dro i'r cyhoedd. Cwblhawyd gwaith atgyweirio (prawf) ym mis Tachwedd 2021 i baratoi ar gyfer y prif gynllun.

Mae'r Cyngor wedi pwysleisio trwy gydol y cynllun bod y gwaith i ddiogelu'r strwythur yma ar gyfer y dyfodol yn cynrychioli cynllun mawr, sy'n galw am gau'r Bont Wen am gyfnod sylweddol. Heddiw, cyhoeddwyd y bydd y gwaith yma'n dechrau ddydd Llun, 23 Mai. Y gobaith yw y bydd y gwaith wedi'i gwblhau erbyn dechrau 2023.

Bydd y cynllun yma'n adnewyddu'r Bont Wen yn llwyr, ac yn cynnwys gwaith trwsio'r concrid. Bydd y gwaith yma'n adfywio a chynnal treftadaeth y strwythur. Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys gosod paneli sgwrio ar biler y gogledd, gwaith hoelio'r pridd ar arglawdd y de-ddwyrain, atgyweirio gwaith maen ar waliau adain a thrwsio'r canllawiau haearn ar ochr ddeheuol y strwythur.

Bydd y Bont Wen (rhwng Heol Berw ac Y Rhodfa) ar gau i fodurwyr trwy gydol y gwaith gan ddechrau ar 23 Mai am 8.00am. Mae llwybr amgen (i'r de o le mae'r ffordd ar gau) yn mynd ar hyd Y Rhodfa, Stryd y Gorllewin, cylchfan Stryd y Bont, Stryd y Bont a Heol Berw. Os ydych chi'n teithio i'r cyfeiriad arall, ewch ar hyd Heol Berw, Stryd y Bont, Heol y Gorllewin, Y Stryd Ganol, Heol Tresimwn a'r Rhodfa.

Dyma fap sy'n nodi'r ffordd sydd wedi'i chau a'r llwybrau amgen sydd ar gael

Bydd modd i feicwyr a cherddwyr ddefnyddio'r bont trwy gydol y rhan fwyaf o'r cynllun – ac eithrio wythnos gyntaf a chwe wythnos olaf y cynllun wrth i'r contractwr osod a thynnu sgaffaldiau ar y safle. Felly, bydd y bont ar gau i feicwyr a cherddwyr o 23 Mai hyd at ddechrau Gorffennaf 2022. Fydd dim mynediad ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys trwy gydol y cynllun.

Meddai Roger Waters, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng-flaen Rhondda Cynon Taf: "Bydd y gwaith sydd wedi'i drefnu ar gyfer y Bont Wen ym Mhontypridd yn trwsio'r difrod a achoswyd gan Storm Dennis. Mae'r bont wedi bod ar agor ers mis Medi 2021 a hynny'n dilyn cwblhau cam cyntaf y gwaith atgyweirio'n llwyddiannus y llynedd, ond mae'r Cyngor wedi pwysleisio y bydd angen cau'r bont am gyfnod hirach er mwyn cynnal y prif waith atgyweirio yn 2022.

"Mae trwsio'r Bont Wen yn flaenoriaeth i'r Cyngor ac mae'r gwaith wedi'i gynnwys yn rhan o Raglen Gyfalaf y Priffyrdd y Cyngor ar gyfer 2022/23, sy'n cynnwys buddsoddiad gwerth £6.4miliwn ar gyfer gwaith yn dilyn Storm Dennis. Mae'r cyllid yma wedi'i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru a bydd yn cyfrannu at nifer o raglenni allweddol gan gynnwys Pont Droed Castle Inn, Pont Droed y Bibell Gludo a Phont Droed Tyn-y-bryn. 

"Mae cyllid pellach gwerth £5.65miliwn wedi'i glustnodi yn rhan o'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Strwythurau'r Priffyrdd ar gyfer rhaglenni allweddol megis adeiladu pont newydd yn lle Pont Droed Stryd y Nant yn Ystrad, gwaith atgyweirio ar Bont Imperial, Porth, a gosod pont newydd yn lle Pont Droed Rheilffordd Llanharan a thrwsio Cantilifer Nant Cwm-parc yn Nhreorci. Mae’r gwaith yma eisoes wedi cychwyn.

"Mae'r Cyngor yn cydnabod bod cau'r Bont Wen yn tarfu ar drigolion a chymudwyr lleol, a hoffwn i ddiolch i bawb yn y gymuned am eu hamynedd a'u cydweithrediad. Mae'r cynllun yma'n hollbwysig er mwyn sicrhau bod y cyswllt trafnidiaeth lleol yma ar gael i'r gymuned yn y dyfodol, yn ogystal ag adfywio strwythur rhestredig pwysig."

Wedi ei bostio ar 13/05/22