Skip to main content

Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn

Mae Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn yn cynnig swm atodol i fudd-daliadau. Maen nhw'n cael eu hystyried os oes angen cymorth ychwanegol ar rywun o ran costau tai. Mae unrhyw daliad yn ychwanegol i'r Budd-dal Tai sydd wedi'i roi.

Dim ond hyn a hyn o arian sydd ar gael i'w wario ar y taliadau hyn, felly, mae eisiau cyflwyno cais er mwyn penderfynu a oes modd gwneud Taliad Tai yn ôl Disgresiwn.

Mae Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn yn cynnig cymorth tymor byr; dydyn nhw ddim yn ateb tymor hir.

Beth all pwrpas Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn fod?

Gall Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn helpu gyda:

  • Diffyg rhwng Budd-dal Tai / Costau Tai Credyd Cynhwysol a rhent

All Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn ddim helpu gyda:

  • cynnydd mewn rhent o achos ôl-ddyledion rhent
  • unrhyw ddiffyg ariannol wrth dalu Treth y Cyngor
  • budd-dal sydd wedi cael ei atal oherwydd methiant i roi gwybodaeth
  • unrhyw ostyngiad budd-dal o ganlyniad i beidio â bod yn bresennol mewn 'cyfweliad canolbwyntio ar waith', cosb gwaith Lwfans Ceisio Gwaith, neu fethu â chydymffurfio â'r Asiantaeth Cynnal Plant wrth drefnu taliadau cynhaliaeth
  • costau dŵr a charthffosiaeth.

Pwy sy'n cael gwneud cais am Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn?

I fod yn gymwys i dderbyn Taliad Disgresiwn at Gostau Tai, rhaid bod person yn derbyn Budd-dal Tai/elfen costau tai Credyd Cynhwysol ac yn gallu bodloni'r Cyngor bod angen cymorth pellach arno gyda chostau tai drwy gyflwyno manylion incwm a gwariant.

Does dim modd dyfarnu Taliad Disgresiwn at Gostau Tai lle mae Budd-dal Tai neu Gostau Tai Credyd Cynhwysol llawn yn daladwy yn barod.

Ydych chi am wneud cais am Daliad Tai yn ôl Disgresiwn?

Rhaid cwblhau cais ar-lein er mwyn gwneud cais am Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn. Cliciwch ar y ddolen isod:

Gwneud cais am daliad tai yn ôl disgresiwn ar-lein
Mae ffurflen gais bapur hefyd ar gael. Bydd modd inni ei hanfon atoch os oes angen. E-bostiwch CwestiynauBudd-dalTai@rhondda-cynon-taf.gov.uk er mwyn gofyn am hyn

Mae cronfeydd ar gyfer y taliadau yn gyfyngedig, felly fydd pob cais ddim yn llwyddiannus. Os yw'r cais yn cael ei gyflwyno ar ran person arall, dylai hyn gael ei wneud yn glir ar y ffurflen.

Sut fydd yr arian yn cael ei dalu?

Os yw cais yn llwyddiannus, bydd yr arian yn cael ei roi gydag unrhyw Fudd-dal Tai. Bydd e fel arfer yn dechrau ar y dydd Llun yn dilyn derbyn y cais.

Beth fydd yn digwydd os bydd yr amgylchiadau'n newid?

Os bydd amgylchiadau'n newid, rhaid i'r Cyngor gael gwybod ar unwaith oherwydd gall hyn effeithio ar y taliadau. Os yw'r newid yn golygu eich bod chi wedi derbyn arian nad oedd hawl gyda chi'i dderbyn, efallai bydd rhaid i chi ei ad-dalu.

Dyma enghreifftiau o newidiadau mae rhaid rhoi gwybod amdanyn nhw:

  • Budd-daliadau'n dechrau neu'n stopio
  • Symud tŷ
  • Newidiadau mewn incwm neu gynilon (i fyny neu i lawr)
  • Rhywun yn symud i mewn neu allan o'r tŷ

Cewch chi roi gwybod am newidiadau i'ch amgylchiadau mewn perthynas â'ch hawl i Fudd-daliadau Tai ar-lein yma.

Ydych chi'n anghytuno â Phenderfyniad?

Mae Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn yn cael eu rhoi tu allan i'r cynllun Budd-dal Tai ac felly does dim hawliau apêl statudol. Serch hynny, bydd y Cyngor yn adolygu penderfyniad os yw cais ysgrifenedig yn cael ei wneud.

Dylai unrhyw apêl gael ei wneud o fewn mis i ddyddiad y llythyr dyfarnu, gan roi'r rhesymau dros yr apêl. Fel arall, caiff person ffonio, ysgrifennu llythyr neu ymweld â'r Cyngor er mwyn derbyn eglurhad am y penderfyniad a/neu ofyn am ddatganiad ysgrifenedig o'r rhesymau, a fydd yn dangos gwybodaeth bellach mewn perthynas â'r penderfyniad.