Skip to main content

Budd-dal Tai – cyflwyno cais

Os ydy'ch incwm yn isel, efallai bydd modd i chi gael Budd-dal Tai i'ch helpu chi i dalu'ch rhent. Gall Budd-dal Tai dalu ychydig o'ch rhent neu eich rhent i gyd – mae'n dibynnu ar eich incwm a'ch amgylchiadau.

Cewch chi wneud cais am Fudd-dal Tai os ydych chi'n gweithio neu'n ddi-waith, ond efallai fydd dim modd i chi hawlio Budd-dal Tai os ydy'r isod yn berthnasol i chi:

  • Does dim rhaid i chi dalu rhent;
  • Mae gennych chi neu'ch cymar, neu'r ddau ohonoch chi ar y cyd, gynilion o £16,000 neu fwy;
  • Rydych chi'n byw mewn cartref gofal, megis cartref nyrsio neu gartref gofal preswyl i'r henoed;
  • Rydych chi'n rhentu cartref roeddech chi'n arfer ei rannu oddi wrth eich cyn-gymar;
  • Rydych chi'n rhiant neu'n warcheidwad i blentyn eich landlord;
  • Rydych chi'n byw yn eich cartref yn rhan o'ch swydd.

Sut i gyflwyno cais am Fudd-dal Tai

Cewch chi wneud cais ar-lein am Fudd-dal Tai

Os does dim modd ichi gyflwyno cais ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen uchod, ffoniwch 01443 425002 i ofyn am ffurflen gais.

Cael help llenwi mewn cais

Os ydych chi'n berson hŷn neu'n anabl ac wedi derbyn ffurflen gais, ond bod angen cymorth arnoch chi i'w llenwi, mae'n bosibl y gallwn ni ymweld â chi. Cysylltwch â ni i ofyn am ymweliad.

  • Trefnu apwyntiad yn eich Canolfan iBobUn leol

Ar ôl i chi wneud cais, byddwn ni'n cysylltu â chi dros y ffôn neu'n ysgrifenedig os bydd angen rhagor o wybodaeth arnon ni. Os byddwch chi'n nodi'ch rhif ffôn presennol ar eich cais, bydd hynny'n ei gwneud hi'n haws i ni gysylltu â chi.

Os hoffech chi wneud cais am fath arall o Fudd-dal, neu weld beth arall y gallwch chi ei hawlio, defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau.

Os bydd fy amgylchiadau'n newid, beth fydd yn digwydd?

Os bydd unrhyw newid yn eich amgylchiadau (neu yn amgylchiadau'r bobl sy'n byw gyda chi), peidiwch ag aros i ni gysylltu â chi. Rhowch wybod i ni am y newid. Os byddwch chi'n oedi, mae'n bosibl fyddwch chi ddim yn derbyn cymaint o fudd-dal ag y gallai fod hawl gennych chi i'w gael, neu'ch bod chi'n derbyn gormod o fudd-dal. Rhowch wybod i ni am y newid.

Os dydych chi ddim yn siŵr am ba newidiadau y mae rhaid i ni gael gwybod, edrychwch ar gefn eich llythyr diweddaraf neu gysylltu â ni (mae'r manylion cyswllt i'w gweld isod).

Mae'n bosibl rhoi gwybod am newidiadau yn eich amgylchiadau, mewn perthynas â Budd-daliadau Tai / Gostyngiad Treth y Cyngor, ar-lein.
Rydym yn anelu at ymateb i chi o ran newid yn eich hawliad amgylchidau o fewn 10 diwrnod gwaith.   

Efallai y byddwn ni'n cysylltu â chi o bryd i bryd, i wirio nad oes newid yn eich amgylchiadau. Os byddwn ni'n gwneud hyn, byddwn ni naill ai'n ymweld â chi, yn anfon ffurflen drwy'r post i chi ei llenwi neu'n rhoi galwad ffôn i chi.

Os ydych chi'n dymuno rhoi gwybod eich bod chi wedi newid cyfeiriad ac rydych chi'n derbyn Budd-dal Tai, cwblhewch ffurflen gan ddefnyddio'r ddolen isod:
Rydym yn anelu at ymateb i chi o ran newid yn eich hawliad amgylchidau o fewn 10 diwrnod gwaith.   

Oes modd ôl-ddyddio'r Budd-dal Tai?

Os ydych chi o'r farn y dylai eich Budd-dal Tai ddechrau ar ddyddiad cynharach, dylech chi ysgrifennu aton ni a gofyn i ni ôl-ddyddio'ch budd-dal. Fel arfer, fydd ceisiadau ddim yn cael eu hôl-ddyddio cyn y diwrnod y bydd eich cais yn cael ei gyflwyno, oni bai eich bod chi'n gallu dangos rheswm da dros beidio â gwneud cais ar yr adeg briodol. I gefnogi'ch cais ôl-ddyddio, cyflwynwch dystiolaeth, fel papur meddyg ac ati.

Y mwyaf y gallwn ni ôl-ddyddio'r Budd-dal Tai ydy un mis.

Os byddwn ni'n penderfynu dydych chi ddim wedi rhoi rheswm da a dydyn ni ddim yn gallu ôl-ddyddio'ch cais, bydd y rhesymau dros hyn yn cael eu hesbonio yn ein llythyr. Bydd hawl gennych chi i apelio yn erbyn ein penderfyniad.

Cyngor Rhondda Cynon Taf

Ysgrifennwch at:

Tŷ Oldway
Stryd Y Porth

Y Porth
Rhondda Cynon Taf

CF39 9ST

Ffôn: 01443 425002