Ydych chi'n ei chael hi'n anodd rheoli'ch arian?  Mae pobl eraill yn yr un sefyllfa â chi – cofiwch hynny. Mae llawer o sefydliadau lleol a chenedlaethol ar gael sy'n cynnig cyngor rhad-ac-am-ddim ac annibynnol.

Cyngor a Budd-daliadau gan eich Cyngor lleol

Gweld y Budd-daliadau sydd efallai ar gael i chi trwy'ch Cyngor lleol.

Cyngor a Budd-daliadau gan Lywodraeth San Steffan

Cyngor ar faterion arian a dyled ar wefan GOV.UK.

Cyngor ar Bopeth

Edrychwch ar yr wybodaeth a'r cyngor i'ch helpu i wneud y dewisiadau ariannol cywir, helpu i ddelio â'ch problemau dyled a gwella eich sefyllfa ariannol.

Undebau Credyd Lleol

Dyma'r lle cewch chi gyngor, rhywle i gynilo a ffordd fforddiadwy a chyfrifol i fenthyg arian.

Gwasanaeth Cynghori Ariannol Annibynnol

Cyngor diduedd am ddim ar gyfer gwneud y mwyaf o'ch arian.