Skip to main content

Anifeiliaid Marw

Beth mae’r Cyngor yn ei wneud am anifeiliaid marw?

Rydyn ni’n darparu gwasanaeth am ddim i symud anifeiliaid marw o bob ffordd, pafin ac ardal gyhoeddus. Ein bwriad ni yw symud unrhyw anifail marw o fewn awr i rywun roi gwybod i ni amdano. Mae’r gwasanaeth yma yn cynnwys anifeiliaid gwyllt fel llwynogod yn ogystal â phob math o gath a chi domestig.

Ar gyfer da ac anifeiliaid mwy fel anifeiliaid fferm, cysylltwch â’n Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus ar 01443 425001.

Bydd anifeiliaid llai fel gwiwerod, cwningod, draenogod ac adar yn cael eu symud yn rhan o’n gwasanaeth glanhau strydoedd arferol.

Dydyn ni ddim yn symud anifeiliaid marw o gartrefi preifat.

Sut mae rhoi gwybod am anifail marw mewn man cyhoeddus?

Rhoi gwybod am anifail marw mewn man cyhoeddus

Pan fyddwch chi'n cysylltu â ni, rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl, gan gynnwys:

  • Lle mae’r anifail (enw’r ffordd, tirnod cyfagos ac ati)
  • Y math o anifail (cofiwch, bydd rhaid i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus ar 01443 425001 os anifail fferm sy’n farw.

Os ydych chi’n cysylltu â ni i weld a ydyn ni wedi dod o hyd i’ch anifail anwes, dywedwch y canlynol wrthon ni:

  • Y math o anifail rydych chi’n chwilio amdano 
  • Lliw'r anifail
  • Unrhyw farciau neu nodweddion arbennig sydd gan yr anifail

e.e. os ci yw'r anifail:

  • brîd y ci.
  • Y math o goler a’r lliw
  • os oes enw a / neu gyfeiriad / rhif ffôn ar y coler
Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd

Gwasanaeth Gofal Strydoedd Rhondda Cynon Taf,
Tŷ Glantaf
Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest
Pontypridd
CF37 5TT

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 844310