Mae dros 4,600 o safleoedd halogedig posibl yn Rhondda Cynon Taf, wedi’u hetifeddu o’r diwydiannau trwm fu mor ffyniannus yma gynt.
Mae’n wir fod llawer o’r safleoedd segur hyn yn eithaf diniwed, ond mae llawer ohonyn nhw’n ddiffaith ac yn difa harddwch bro. Fe allai rhai eraill wneud niwed i iechyd pobl, neu lygru’n hadnoddau dŵr ni. Ond fe allai’r safleodd hyn a gafodd eu datblygu a’u defnyddio o’r blaen (‘safleoedd tir llwyd’) fod yn werthfawr iawn, ac mae llawer ohonyn nhw’n addas i gael eu datblygu. Pe bai’r safleoedd hyn yn cael eu glanhau, byddai modd eu defnyddio mewn ffordd a fyddai o les i’r gymdeithas yn gyffredinol.
Mae prosesau rheoli datblygu yn fodd i gyrraedd y nod hwn, wrth i geisiadau cynllunio gael eu cyflwyno. Bydd yn bosibl ychwanegu amodau at ganiatâd cynllunio ar gyfer y safleoedd hyn. Yn ôl yr amodau hyn, bydd hi’n ofynnol i ymchwilio i’r safleoedd hyn a’u gwneud yn ddiogel i’w defnyddio cyn dechrau’u datblygu.
Dyma’r ffordd y bydd Adran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd yn gweithio gyda chynllunwyr y Cyngor a chyda’r datblygwyr preifat. Bydd y cydweithredu agos yma’n fodd i adfer y safleoedd yn wirfoddol.
Os na fydd adfer gwirfoddol yn bosibl, mae nifer o bŵerau pwrpasol gyda’r Adran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd. Mae hawl gyda nhw i orfodi’r sawl sy’n llygru ‘tir halogedig’ a gwneud niwed sylweddol, os:
- oes sylweddau niweidiol yn y tir, arno, neu odano, neu
- yw sylweddau ar y safle yn achosi llygru dŵr
a lle
- mae rhywbeth yn y tir (‘halogyn’) yn ffynhonell llygredd
- mae rhywun neu rywbeth (‘derbynnydd’) yn agored ei gael ei effeithio gan yr halogyn, a bod
- modd / ‘llwybr’) i’r halogyn effeithio ar y derbynnydd
Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi'i 'Strategaeth Archwilio Tir Halogedig', sy'n nodi sut rydyn ni wedi pennu safleoedd posibl o dir halogedig, sut byddwn ni'n penderfynu pa rai sydd angen blaenoriaeth, a'r camau nesaf.
Strategaeth tir halogedig (2023)
Mewn rhai achosion (mae'r manylion i'w cael yn y Strategaeth Archwilio Tir Halogedig), os bydd safle'n cael ei ddatgan yn dir haolgedig, mae'n bosibl y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd cyfrifoldeb dros reoleiddio'r safle yn lle'r Cyngor.
Y Gofrestr Tir Halogedig
Mae Rhan 2A, Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (Adran 78R) yn gofyn i Awdurdodau Lleol gynnal cofrestr gyhoeddus sy'n gofnod parhaol o gamau gweithredu rheoliadol penodol sydd wedi'u cymryd mewn perthynas ag adfer tir halogedig. Mae modd i rai mathau penodol o wybodaeth gael eu heithrio o'r gofrestr gyhoeddus yn unol â gofynion cyfrinachedd masnachol neu ddiogelwch cenedlaethol.
Mynegeion y Gofrestr Gyhoeddus o Dir Halogedig
Mae modd bwrw golwg ar gopi papur o'r gofrestr gyhoeddus (Y Gofrestr Tir Halogedig) hefyd yn ystod oriau swyddfa arferol yn Nhŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY.
Er mwyn trefnu apwyntiad ymlaen llaw i ymweld â'n swyddfeydd, e-bostiwch: LlygreddyrAmgylchedd@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 425001.
Dyw'r Gofrestr Tir Halogedig ddim yn cynnwys manylion:
- Tir sydd wedi'i bennu'n ffurfiol yn dir halogedig, ond ddim wedi wynebu gweithgarwch rheoliadol perthnasol eto
- Tir sydd wedi'i nodi yn dir halogedig posibl yn unol â Strategaeth Archwilio Tir Halogedig y Cyngor
- Dogfennau ymchwil sydd wedi'u defnyddio er mwyn archwilio tir halogedig posibl
- Tir sydd wedi'i adfer trwy'r broses cynllunio a rheoli datblygiad.
Mae modd i wybodaeth o'r mathau yma mewn perthynas â safleoedd penodol fod ar gael yn unol â Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Bydd gofyn i chi dalu ffi cyn i ni gyflawni archwiliadau o'n cofnodion er mwyn nodi gwybodaeth berthnasol. Bydd y ffi yn seiliedig ar yr amcan amser bydd ei hangen er mwyn archwilio ein cofnodion. Mae'r ffi yn seiliedig ar gyfradd o £25.00 yr awr gydag isafswm ffi o £25.00. Bydd ffi ychwanegol am lungopïo dogfennau os bydd gofyn.
Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau, e-bostiwch: LlygreddyrAmgylchedd@rctcbc.gov.uk.
Dylid cynnwys cyfeiriad/cyfeirnod grid y safle a chynllun yn nodi ffin y safle yn amlwg.
Ail-ddefnyddio Safleoedd Tir Llwyd
Os byddwch chi’n prynu tir yn Rhondda Cynon Taf, fe ddylech chi ofyn i Adran Pridiannau’r Tir wneud Chwiliad Tir Lleol. Bydd hyn yn rhoi gwybod i chi a oes safle wedi cael ei ddatgan yn ‘dir halogedig’. Bydd tâl am y gwasanaeth yma.
Manylion cyswllt
Ffôn: 01443 425001
Ebost: LlygreddyrAmgylchedd@rhondda-cynon-taf.gov.uk