Skip to main content

Digartrefedd - Cyngor a chymorth

Y Newyddion Diweddaraf - Ebrill 2024

Mae Gwasanaethau Datrysiadau Tai a Digartrefedd y Cyngor yn wynebu galw mawr ar hyn o bryd. O ganlyniad i hyn, ac oherwydd y nifer uchel iawn o ymholiadau rydyn ni'n eu derbyn ar hyn o bryd, mae rhywfaint o oedi wrth i'r Gwasanaeth ymateb i geisiadau am alwad ffôn yn ôl neu ymholiadau e-bost.

Gan ystyried yr uchod, byddwch cystal â pheidio â chysylltu â'r Gwasanaeth Datrysiadau Tai oni bai bod gyda chi anghenion tai brys h.y. rydych chi'n ddigartref heddiw neu byddwch chi'n ddigartref yn fuan iawn.

Os oes gyda chi ymholiad cyffredinol sydd ddim yn ymholiad brys, mae croeso i chi gysylltu â'r Gwasanaeth drwy e-bost digartrefedd@rhondda-cynon-taf.gov.uk, ond nodwch y gallai cymryd hyd at 2-3 wythnos i ymateb i'ch ymholiad.

Mae modd dod o hyd i gymorth a chyngor pellach drwy ffonio 01443 495188 neu drwy fynd i wefan y Cyngor.  Materion Tai | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk)

Os ydych chi eisoes wedi cysylltu â'r Gwasanaeth, peidiwch â cheisio cysylltu eto.  Bydd Swyddog Materion Tai YN ymateb i'ch ymholiad cyn gynted ag y bo modd.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a dyma ddiolch i chi am eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod yma yn sgil y galw digynsail sy’n wynebu Gwasanaethau Tai'r Cyngor.

Ydych chi'n ddigartref neu'n wynebu'r risg o fod yn ddigartref?

  • Ydy eich teulu neu'ch ffrindiau'n gofyn i chi adael?
  • Ydych chi wedi cael rhybudd i adael gan eich Landlord?
  • Ydych chi'n dioddef anawsterau ariannol gyda'ch rhent neu forgais?
  • Ydych chi wedi derbyn unrhyw orchmynion gan y Llys Sirol?

Os ydych chi mewn perygl o fod yn ddigartref, mae’n BWYSIG IAWN eich bod chi'n cysylltu â ni cyn gynted ag y bo modd. Po gynharaf y byddwn ni'n gwybod bod angen help arnoch chi, y mwyaf y gallwn ni eich helpu.

Oes angen cyngor ar dai arnoch chi?

  • Ydych chi am wybod eich hawliau tai?
  • A yw'ch cartref presennol yn anaddas ar gyfer eich anghenion?
  • Ydych chi am wybod beth yw'ch opsiynau tai?

Atal Digartrefedd

Mae gwaith atal digartrefedd effeithiol yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor i atal pobl rhag dod yn ddigartref yn y lle cyntaf. Mae’r cyflenwad o dai cymdeithasol a thai preifat yn Rhondda Cynon Taf yn gyfyngedig iawn felly bydd gweithio gyda chi i osgoi dod yn ddigartref yn dasg allweddol i’r Garfan Materion Tai. Rydyn ni'n gweithio gydag amrywiaeth o asiantaethau partner a landlordiaid i'n helpu i wneud hyn a byddwn ni'n gofyn i chi weithio gyda ni er mwyn eich atal rhag dod yn ddigartref.

Llety Dros Dro

Os byddwch chi'n dod yn ddigartref, mae'n annhebygol y bydd modd i'r Cyngor gynnig cartref parhaol i chi ar unwaith. Gall hyn olygu eich bod chi'n cael math o “lety dros dro". Gallai hyn fod yn llety gwely a brecwast, llety a rennir, un o eiddo prydlesu’r Cyngor neu un o’n hosteli llety. Oherwydd y galw sylweddol am lety dros dro'r Cyngor, mae'r arosiadau presennol mewn llety dros dro yn hir iawn, yn aml yn fwy na 12 mis.  

Cynnig llety

Oherwydd y galw aruthrol am bob math o lety yn y Fwrdeistref, efallai na fydd modd i ni gynnig llety i chi yn yr ardal o’ch dewis. Mae argaeledd neu lety mewn rhai ardaloedd, yn enwedig yn ardal Taf-elái, yn brin iawn. Mae'r rhestri aros yn hir i gael llety parhaol, hyd yn oed pan fo rhywun yn ddigartref.

Os ydych chi'n ddigartref, bydd y Cyngor yn cynnal asesiad ac yn nodi'r math mwyaf addas o lety i chi. Gall hyn gynnwys llety annibynnol mewn tai cymdeithasol neu’r sector rhentu preifat, tai a rennir neu ryw fath o lety â chymorth. Bydd dyletswyddau llety y Cyngor yn dod i ben ar ôl iddo nodi'r math mwyaf addas o lety i chi.

Beth allwn ni ei wneud?

  • Eich helpu chi i aros yn eich cartref presennol trwy roi cyngor i chi ynglŷn â'ch hawliau tenantiaeth a'ch atal rhag dod yn ddigartref, er enghraifft, pan fydd eich landlord yn gofyn i chi adael
  • Rhoi cyngor i chi os oes gyda chi ôl-ddyledion rhent neu anawsterau ariannol eraill
  • Rhoi cyngor i'r rhai sy'n dioddef cam-drin domestig
  • Rhoi cyngor am hawliau sy'n ymwneud ag anghydfodau landlord
  • Helpu i ymchwilio i opsiynau tai gan gynnwys cael mynediad i'r sector rhentu preifat a llety â chymorth
  • Mae gwybodaeth hefyd ar gael ar wefan Ceisio Cartref y Cyngor
  • Cynnig cyngor ar wneud cais i'r Gofrestr Tai Cyffredin a Chymdeithasau Tai eraill
  • Trafod telerau ar eich rhan os oes angen cymorth arnoch chi i gael eich gwaith atgyweirio wedi'i wneud neu os yw’ch landlord yn aflonyddu arnoch chi
  • Penderfynu a ydych chi'n ddigartref drwy asesu'ch sefyllfa a rhoi cyngor ynglŷn â threfniadau llety dros dro

Cymorth Ychwanegol i Bobl Ifainc

Os wyt ti'n ifanc ac yn ddigartref, efallai y byddi di'n colli cysylltiad â dy ffrindiau a dy deulu. Efallai y byddi di hefyd yn colli cyfleoedd addysg a hyfforddiant. Gallwn ni ddarparu cyngor sy'n gysylltiedig â dy anghenion personol, a gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill i dy helpu di i fynd yn ôl adref. Os oes angen, gallwn ni hefyd ddarparu llety dros dro ar dy gyfer hyd nes y gallwn ni archwilio opsiynau tai eraill.  Byddwn ni'n helpu i dy dywys di drwy'r system ac i sefyll ar dy draed unwaith eto.

Cysylltwch â ni:

Manylion Cyswllt

Y Gwasanaeth Materion Tai

Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU

Rhif ffôn: 01443 495188

Gwasanaeth Argyfwng y tu allan i oriau swyddfa: 01443 425011

Mae rhagor o gyngor a chymorth ar gael gan Shelter Cymru: https://sheltercymru.org.uk/cy/

Oriau Agor y Swyddfa

Dydd Llun, dydd Mawrth, Dydd Mercher a dydd Gwener - 9am-5pm

Dydd Iau - 1pm-5pm (Nodwch: mae'r swyddfa ar gau ar fore Iau).

Os byddwch chi'n ddigartref mewn argyfwng y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch Linell Argyfwng y Tu Allan i Oriau Swyddfa ar 01443 425011.