Skip to main content

Tystysgrif Perfformiad Ynni

Bydd Tystysgrif Perfformiad Ynni yn ofynnol yn y sector tai cymdeithasol a'r sector tai preifat wrth osod cartrefi ar sail hunangynhwysol ar 1 Hydref 2008, neu ar ôl hynny.

Mae'r ddeddfwriaeth yn gallu bod yn berthnasol i gymdeithasau tai, landlordiaid preifat (gan gynnwys landlordiaid sydd â thenantiaid sy'n hawlio Budd-dal Tai) a llety i fyfyrwyr (dan rai amgylchiadau).

Mae rhaid i landlordiaid gomisiynu Tystysgrif Perfformiad Ynni a sicrhau bod copi ohoni, gan gynnwys adroddiad argymhellion, ar gael am ddim i ddarpar denantiaid cyn gynted ag sy'n bosibl. Fan lleiaf, dylai hyn ddigwydd pan fydd gwybodaeth ysgrifenedig am gartref yn cael ei rhoi i ddarpar denantiaid am y tro cyntaf, neu pan fyddan nhw'n trefnu ymweliad, a chyn cychwyn ar unrhyw gontract rhentu. Cyn cychwyn ar unrhyw gontract rhentu, bydd rhaid rhoi copi o Dystysgrif Perfformiad Ynni (adroddiad argymhellion a graddio) am ddim i'r person a fydd, yn y pen draw, yn denant. Yn dechrau 1 Hydref 2008, bydd Tystysgrif Perfformiad Ynni yn ofynnol bob tro y bydd adeilad yn y sectorau rhentu cymdeithasol a phreifat yn cael ei rentu gan denant newydd. Mae adeilad yn gallu bod:

  • yn adeilad cyfan
  • yn rhan o adeilad, lle mae'r rhan honno wedi'i chynllunio neu ei haddasu i gael ei defnyddio ar wahân.

Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni yn ofynnol yn achos cartrefi hunangynhwysol, sef cartrefi sydd ddim yn rhannu cyfleusterau angenrheidiol – fel ystafell ymolchi, toiled neu gegin – gydag unrhyw gartref arall, a bod ganddo ei fynedfa ei hun, naill ai o'r awyr agored neu drwy rannau cyffredin, ond nid trwy uned arall. Pan fydd gwaith marchnata wedi dechrau cyn mis Hydref 2008, bydd Tystysgrif Perfformiad Ynni yn ofynnol os yw'r eiddo yn parhau i fod ar osod ar 1 Hydref 2008, neu ar ôl hynny. Os oes asiant gan y landlord, mae'n bosibl i'r asiant sicrhau bod y gofynion hyn yn cael eu bodloni. Ond, bydd y landlord yn parhau i fod yn gyfrifol am unrhyw dor-rheolau.

Rhai pwyntiau allweddol

  • Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni yn ceisio cyfleu perfformiad ynni'r cartref i ddarpar denantiaid sy'n ystyried ei rentu.
  • Mae Tystysgrif Perfformiad Ynni yn ddilys am 10 mlynedd ac mae'n gallu cael ei hailddefnyddio yn ôl yr angen yn ystod y cyfnod hwnnw. Does dim angen comisiynu Tystysgrif Perfformiad Ynni newydd bob tro bydd tenant newydd. Ond, pan fydd Tystysgrif Perfformiad Ynni fwy diweddar yn cael ei chomisiynu ar gyfer cartref, bydd hi'n disodli'r hen dystysgrif bob tro. Felly, pan fydd nifer o Dystysgrifau Perfformiad Ynni ar gael ar gyfer eiddo yn ystod cyfnod o 10 mlynedd, y dystysgrif fwyaf diweddar fydd yr unig un ddilys.
  • Dydy Tystysgrif Perfformiad Ynni ddim yn ofynnol ar gyfer eiddo a oedd wedi'i feddiannu cyn 1 Hydref 2008, ac sydd wedi parhau i fod wedi'i feddiannu gan yr un tenant ar ôl hynny. Ond, mae'n bosibl i landlordiaid gomisiynu Tystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer y cartrefi hyn os byddan nhw'n dymuno gwneud hynny.
  • Mae rhaid i Dystysgrif Perfformiad Ynni gael ei chynhyrchu gan asesydd achrededig, ond mae croeso i landlordiaid gael achrediad i'w hunain neu eu gweithwyr, felly, byddan nhw'n gymwys i ardystio eu heiddo eu hunain.

Am ragor o wybodaeth a dod o hyd i Asesydd Tystysgrif Perfformiad Ynni yn eich ardal, ewch i: www.hcrregister.com