Skip to main content

Rheoliadau Tân mewn tai ar osod

Yn dibynnu ar y math o eiddo rydych chi’n ei roi ar osod, mae rhagofalon tân gwahanol i’w cymhwyso.

Mae’r dogfennau sy wedi’u rhestru yn nodi’r gofynion sy’n gymwys ar gyfer pob math o eiddo.

Os hoffech chi ragor o gymorth neu eglurhad, cysylltwch ag aelod o’r Garfan Materion Tai ar (01443) 425001 neu anfon neges e-bost iechydycyhoeddathai@rctcbc.gov.uk

Fel arall, mae modd ichi gael gweld arweiniad mwyaf diweddar LACoRS o’r enw ‘HOUSING – FIRE SAFETY’ (Canllaw ar ddarpariaethau diogelwch tân ar gyfer mathau penodol o dai presennol), a gyhoeddwyd gan Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd ar y cyd â Chymdeithas y Prif Swyddogion Tân.

Yn ogystal â hynny, mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynnwys gwybodaeth am Ddiogelwch Tân i Fusnesau a Chymunedau ar ei wefan. 

Manylion Cyswllt

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301
E-bost: iechydycyhoeddathai@rhondda-cynon-taff.gov.uk