Skip to main content

Lwfans Tai Lleol - Taliadau Tenantiaid

Gyda'r Lwfans Tai Lleol, mae'r budd-daliadau, fel arfer, yn cael eu talu i'r tenant. Chaiff tenantiaid ddim dewis i'w budd-daliadau gael eu talu i'r landlord. Ond mewn rhai achosion, gallwn ni benderfynu eu talu i'r landlord.

Pryd caiff awdurdod lleol wneud taliadau i'r landlord?

Fel arfer, bydd rhaid i’r awdurdod lleol dalu’r budd-dal i’r landlord, os yw’r tenant wyth wythnos neu ragor ar ei hôl hi gyda’r rhent.

Mae'n bosibl y bydd taliadau yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i'r landlord os ydyn ni'n penderfynu bod y tenant:

  • yn debygol o'i chael hi'n anodd rheoli'i faterion ariannol
  • yn annhebygol o dalu'i rent

Yn ogystal â hyn, mae gyda ni hawl i benderfynu talu’r budd-dal i’r landlord os ydyn ni wedi gorfod gwneud hynny yn ystod hawl cyfredol y tenant, oherwydd iddo fod wyth wythnos ar ei hôl hi gyda'r rhent.

Pwy sydd â'r hawl i ofyn i'r budd-daliadau gael eu talu i'r landlord?

Gall tenantiaid, landlordiaid, teuluoedd tenantiaid neu bersonau sy'n gweithredu ar ran tenantiaid ddweud wrth yr awdurdod lleol eu bod nhw mewn trafferthion o ran talu rhent (neu eu bod nhw'n debygol o fod mewn trafferthion). Gall yr awdurdod lleol, hefyd, dynnu sylw at denantiaid sydd efallai'n cael anhawster i reoli eu materion ariannol eu hunain wrth (er enghraifft) gynnal ymweliadau cartref. Gall landlordiaid gysylltu â'r awdurdod lleol hefyd, yn enwedig os yw'r tenant yn mynd i ôl-ddyledion gyda'i rent.

Pwy sy'n debygol o fynd i ôl-ddyledion gyda'i rent?

Mae llawer o resymau pam y gall rhywun fynd i ôl-ddyledion. Mae'n bosibl y gall fod yn berson sydd:

  • â phroblemau dyled difrifol
  • â Dyfarniad Llys Sirol diweddar yn ei erbyn
  • yn fethdalwr heb ei ryddhau
  • sydd ddim yn gallu agor cyfrif banc / cymdeithas adeiladu
  • y mae cyfran o'i Gymhorthdal Incwm / Lwfans Ceisio Gwaith yn cael ei thalu'n uniongyrchol i gwmni nwy, trydan neu ddŵr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • sy'n cael cymorth Cefnogi Pobl
  • sy'n cael cymorth gan elusen ar gyfer y digartref

Neu'n berson sydd efallai:

  • ag anawsterau dysgu
  • â salwch sy'n ei rwystro rhag dod i ben â phethau o ddydd i ddydd
  • yn methu â darllen Saesneg
  • yn methu â siarad Saesneg
  • yn gaeth i gyffuriau, alcohol neu hapchwarae
  • yn ffoi rhag trais yn y cartref
  • wedi gadael gofal
  • wedi gadael y carchar
  •  yn ddigartref

Gall fod rhesymau eraill pam y gall rhywun fod ag anawsterau. Gofynnwch i ni am ragor o wybodaeth.

Pwy sy’n penderfynu a gawn ni dalu budd-daliadau i'r landlord?

Ni sy’n penderfynu hynny.

Ar adegau, mae’n bosibl y bydd staff Budd-daliadau Tai yn gwybod am bobl sy’n cael anawsterau wrth reoli’u harian. Bydd hawl gan y staff i gymryd camau ar sail yr wybodaeth yma. Os ydych chi o'r farn bod tenant yn ei chael hi'n anodd rheoli’i arian, rydyn ni’n eich argymell i annog y tenant i gysylltu â ni.

Rhaid i ni gael tystiolaeth sy’n dangos ei fod yn ei chael hi'n anodd rheoli’i arian, ac y bydd yn llesol iddo os talwn ni’n uniongyrchol i’r landlord. Gan amlaf, dylai’r dystiolaeth fod yn ysgrifenedig. Dyma rai o’r bobl sy’n cael cyflwyno tystiolaeth:

  • y tenant
  • ffrindiau neu deulu’r tenant
  • y landlord
  • grwpiau lles (gan gynnwys cynghorwyr ariannol)
  • Gwasanaethau Cymdeithasol
  • swyddogion prawf
  • Y Ganolfan Byd Gwaith
  • Y Gwasanaeth Pensiwn
  • elusennau/mudiadau digartrefedd
  • Carfanau Cefnogi Pobl
  • gweinyddwyr cynlluniau blaendal rhent lleol/y cyngor, a swyddogion digartrefedd neu gyngor ar dai

Byddwn ni’n gweithio gyda’r tenant wrth wneud ein penderfyniad.

Gwneud penderfyniad

Unwaith ein bod ni wedi casglu tystiolaeth, byddwn ni'n penderfynu cyn gynted â phosibl a fyddai talu taliadau uniongyrchol i'r landlord yn briodol. Byddwn ni'n dal i dalu'r budd-dal tra rydyn ni'n gwneud ein penderfyniad.

Byddwn ni'n ysgrifennu at y tenant ac yn egluro ein penderfyniad. Byddwn ni hefyd yn ysgrifennu at y landlord.

Adolygiadau ac apeliadau

Os yw'r tenant neu'r landlord yn anghytuno â'n penderfyniad, bydd modd iddyn nhw ofyn i ni ailystyried. Mae hyn yn cael ei alw'n adolygiad. Neu, cân nhw apelio yn erbyn y penderfyniad, gan roi rhesymau pam maen nhw o'r farn bod y penderfyniad yn anghywir.

Cysylltu â ni

Budd-daliadau Tai
CBS Rhondda Cynon Taf
Tŷ Oldway
Y Porth
CF39 9ST

E-bost: CwestiynauBudd-dalTai@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 425002

 

Tudalennau Perthnasol