Skip to main content

Gwneud cais am bafin ag ymylon isel

Beth yw pafin ag ymylon isel?

Pafin isel yw pan fydd ymylfaen y pafin yn cael ei ostwng yn nes at lefel y ffordd er mwyn i gerbyd allu gyrru dros y pafin i barcio ar lain parcio tŷ. Weithiau bydd pafin isel yn cael ei alw’n groesfan/fan croesi i gerbydau.

Pam mae angen pafin ag ymylon isel arna i?

Os ydych chi am yrru cerbyd ar draws troedffordd er mwyn cyrraedd llain barcio (dreif), mae rhaid i chi gael pafin ag ymylon isel wedi’i osod – mae’n anghyfreithlon i yrru ar draws y droedffordd heb bafin isel.

Sut mae gwneud cais am ganiatâd?

Mae modd i chi wneud cais am ganiatâd i gael pafin ag ymylon isel drwy gwblhau’r ffurflen ar-lein. Yn ogystal â gwybodaeth am y lleoliad, mae'r cais yma'n gofyn am y canlynol:

  • llun / braslun o'r palmant arfaethedig
  • talu ffi weinyddol o £138 
Ffurflen gais ar gyfer pafin ag ymylon isel
Mae’r ffurflen gwneud cais ar-lein yn gyflym a hawdd i’w defnyddio.
Nodwch: Does dim modd i ni ad-dalu'r ffi weinyddol o £138 hyd yn oed os yw eich cais yn cael ei wrthod.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Unwaith y byddwn ni wedi derbyn eich ffurflen gais, bydd un o'n harolygwyr yn ystyried y cais ac yn cymeradwyo neu'n gwrthod y cais ar egwyddor.

Nodwch: Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo, bydd ond yn ddilys am 12 o ddyddiad cymeradwyo'r cais.

Os yw’r cynnig yn cael ei gymeradwyo, bydd rhagor o ffurflenni (VC2-5) yn cael eu hanfon atoch chi. Bydd y rhain yn gofyn i chi roi rhagor o fanylion, gan gynnwys gwybodaeth am yr adeiladwr/contractwr rydych chi’n dymuno ei ddefnyddio, a’i bolisïau yswiriant/indemniad. Bydd y ffurflenni yma’n gofyn am wybodaeth ynglŷn â phryd rydych chi’n bwriadu dechrau’r gwaith, ac o’u derbyn, fe allwch chi gymryd bod caniatâd wedi cael ei roi i chi fwrw ymlaen.

Noder, rhaid i’r ffurflenni yma gael eu cwblhau a’u dychwelyd saith diwrnod cyn i’r gwaith ddechrau.

Ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, bydd angen i chi gwblhau ffurflen VC5 sy’n cadarnhau bod y gwaith wedi cael ei gwblhau.

Ar ôl i ni dderbyn y ffurflen yma, bydd arolygydd yn ymweld â’r safle i wneud yn siŵr bod y gwaith ar y pafin yn cyrraedd y safonau gofynnol.

Os yw’r gwaith yn cyrraedd y safonau, byddwch chi’n derbyn cadarnhad bod y pafin ag ymylon isel yn ei le ac y bydd yn cael ei gynnal gan yr awdurdod lleol.

Os nad yw’r gwaith yn cyrraedd y safonau, bydd gofyn am ragor o waith hyd nes bydd y safonau yn cael eu bodloni.

Taliad

Mae modd talu â cherdyn credyd/debyd yn rhan o'ch cais ar-lein.

Os does dim modd i chi wneud taliad ar-lein, ffoniwch y Cyngor 01443 425001 neu e-bostio GwasanaethauiGwsmeriaid@rctcbc.gov.uk i ofyn am ffurflen gais ar bapur.

Bydd modd wedyn i chi dalu drwy anfon siec/archeb bost, neu mae modd talu ag arian parod neu gerdyn credyd/debyd yn un o'n Canolfannau iBobUn, a hynny heb orfod trefnu apwyntiad.

  • Aberdâr
  • Pontypridd
  • Y Porth

Mae modd anfon sieciau/archebion post i'r cyfeiriad wedi'i nodi ar y ffurflen gais.

Oes modd i’r Cyngor wneud y gwaith?

Ymdrinnir â phob cais yn unigol. Os ydych chi’n ystyried gosod pafin ag ymylon isel, ac eisiau gwybod a fyddai’r Cyngor yn gallu gwneud y gwaith ar eich rhan chi, cysylltwch â ni. Cofiwch y bydd y Cyngor yn codi tâl am y gwaith.

Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal

Tŷ Glantaf,

Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest 

Pontypridd

CF37 5TT 

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 844310