Skip to main content

Goleuadau Stryd Rhoi gwybod am Broblem

Os oes un o’r problemau canlynol yn berthnasol i lamp stryd, mae modd rhoi gwybod i ni drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein:
  • Ddim wedi'i oleuo na'i ddiffodd (Mae rhai goleuadau wedi'u diffodd rhwng 1am ac 6Yn ystod amser haf Prydain a rhwng hanner nos a 5am yn ystod y gaeaf).
  • Mae'r golau ymlaen yn ystod y dydd
  • Mae'r golau'n fflachio  
Goleuadau stryd - rhoi gwybod am broblem ar-lein
Bydd y nam yn cael sylw cyn pen 5 diwrnod gwaith. A siarad yn gyffredinol, bydd unrhyw namau yn cael eu datrys ar y cynnig cyntaf. Ond, os ydy'r broblem yn ymwneud â thrydydd parti, megis nam cwmni Western Power Distribution, neu ddifrod i gebl cyflenwad, efallai bydd y cyfnod yma'n hwy.

Goleuadau Stryd - Achosion argyfwng 

Os oes gan lamp stryd un o'r problemau canlynol, ffoniwch 01443 425001 yn ystod oriau swyddfa neu 01443 425011 gyda'r nos a thros y penwythnos.

  • Mae colofn neu ben lamp yn achosi perygl neu wedi cael difrod 
  • Mae drws y golofn ar goll
  • Mae gwifrau mewn golwg

Goleuadau am ran o’r nos

Mae tua 50%  o oleuadau stryd y Cyngor yn gweithredu am ran o’r nos. Mae hyn yn golygu bod tua 14,000 o oleuadau stryd yn cael eu diffodd rhwng hanner nos a 5am. I gael rhagor o wybodaeth a rhestr o gwestiynau cyffredin, ewch i Goleuadau stryd am ran o’r nos - Cwestiynau Cyffredin

Y Priffyrdd

Os ydy'r golau stryd dan sylw wedi'i leoli ar yr M4, A470 neu'r A465 (Ffordd Blaenau'r Cymoedd), ffoniwch Traffig Cymru ar 0845 602 6020.

Beth sy'n digwydd nesaf?