Skip to main content

Gollwng deunydd ar y ffordd

Mae ein carfanau Glanhau a Phriffyrdd yn ymateb i alwadau gan yr Heddlu a’r Gwasanaeth Tân yn dilyn gwrthdrawiadau ar y ffordd. Byddan nhw’n glanhau unrhyw ddeunydd sy’n gollwng ar y ffordd cyn gynted â phosibl.

Fel arfer, bydd y Cyngor yn delio ag unrhyw ddeunyddiau ffisegol (tywod, mwd, graean, paent, a.y.b.) a bydd y Gwasanaeth Tân fel arfer yn delio ag unrhyw ddeunyddiau cemegol (olew, petrol, disel, a.y.b).

Sut alla i roi gwybod am ddeunyddiau sydd wedi’u gollwng ar y ffordd?

Os ydych chi'n sylwi ar unrhyw ddeunyddiau ar brif ffyrdd Rhondda Cynon Taf, rhowch wybod i ni amdanyn nhw fel mater o frys gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod. 

Cysylltu â ni

Gofal y Strydoedd

Gwasanaethau Gofal y Stryd Rhondda Cynon Taf,

Tŷ Glantaf Uned B23

Ystad Ddiwydiannol Trefforest

Pontypridd

CF37 5TT

Ffôn: 01443 425001