Skip to main content

Teithio a Beicio Llesol

Mae beicio yn ffurf eco-gyfeillgar a charedig i'r amgylchedd o deithio. Mae'n gallu cynorthwyo i leihau tagfeydd a llygredd swn, a gwella ansawdd awyr lleol. Yn ogystal a hynny, mae beicio yn cynnig nifer o fanteision iechyd.

Mae beicio yn cynnig dewis realistig arall yn lle llawer o deithiau pellter byr sy'n cael eu gwneud mewn car ar hyn o bryd. Mae'r Cyngor, mewn partneriaeth a nifer o sefydliadau, fel mudiad Sustrans, er enghraifft, yn cynnig y seilwaith angenrheidiol i hyrwyddo ac annog mwy o deithio ar gefn beic.

Bwriwch olwg ar ein hadroddiad blynyddol Teithio Llesol mwyaf diweddar

Bwrw golwg ar ein Hadroddiad Monitro Teithio Llesol mwyaf diweddar

Mae nifer o lwybrau beicio wedi cael eu sefydlu yn ein hardal erbyn hyn, ac mae modd gweld y rhain drwy'r ddolen ganlynol: www.sustrans.org.uk/walesroutes

Yn ogystal â'r llwybrau beicio yma, mae nifer o leoliadau ledled Rhondda Cynon Taf lle cewch chi barcio'ch beic yn ddiogel wrth i chi barhau â'ch diwrnod. Gweler yma.

Yn y wlad yma, mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar Gynghorau lleol i hyrwyddo mwy o gerdded a beicio ar gyfer teithiau bob dydd. Yr enw ar hyn fel arfer yw Teithio Llesol.

Yn 2021, fe wnaethon ni gynnal ymgynghoriad i ddiweddaru ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol. Mae’r map yma'n cynnwys manylion y llwybrau teithio llesol newydd a’r gwelliannau arfaethedig y bydd y Cyngor yn ceisio eu cyflawni dros y 15 mlynedd nesaf. Mae’r map wedi’i lunio gan ddefnyddio'r wybodaeth a gasglwyd yn ystod yr ymgynghoriad yn ogystal â gwaith archwilio sawl dogfen statudol megis Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor.

Mae’r fersiwn terfynol o Fap Rhwydwaith Teithio Llesol y Cyngor wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ac mae modd i’r cyhoedd ei weld drwy glicio ar y ddolen isod. Mae'r Map yma'n disodli’r Map Rhwydwaith Integredig blaenorol oedd yn cwmpasu sawl cymuned yn Rhondda Cynon Taf. Mae modd lawrlwytho manylion y cynlluniau teithio llesol y mae'r Cyngor yn bwriadu eu cyflawni yn ystod y 15 blynedd nesaf, y meini prawf a ddefnyddwyd i flaenoriaethu'r cynlluniau yma a chanlyniad yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2021 isod.

 

Blaenoriaethu Cynlluniau yn y Map Rhwydwaith Teithio Llesol 

Meini Prawf Tystiolaeth – Blaenoriaethu Cynlluniau Teithio Llesol

Ymatebion i'r Ymgynghoriad Teithio Llesol

Diogelwch Beiciau

Ydych chi am sicrhau eich bod yn beicio yn ddiogel? Dilynwch yr argymhellion canlynol:

  • Bod yn weladwy i ddefnyddwyr eraill y ffordd ac i gerddwyr. Cadw'n glir o ymyl y y pafin; gwisgo dillad lliw golau neu fflworoleuol yng ngolau dydd neu pan fydd y golau'n wael, a dillad adlewyrchol gyda'r nos.
  • Defnyddio goleuadau bo amser ar ôl iddi dywyllu, yn y glaw, neu os yw'r tywydd yn gymylog.
  • Peidio â marchogaeth yn y gwter. Rhoi digon o le i chi'ch hun ar y chwith. Peidio â theimlo fod rhaid i chi gadw'n dynn wrth ymyl y cwrbyn os oes rhywun mewn car tu ôl i chi yn dechrau colli amynedd.
  • Amddiffyn eich hun. Gwisgo helmed bob amser. Bydd hyn lleihau risg anaf pen os byddwch mewn damwain neu wrthdrawiad.
  • Dangos eich bwriad i yrwyr mewn da bryd. Edrych yn wastad cyn cychwyn neu stopio, a sicrhau eich bod yn edrych. Rhoi arwydd cyn i chi gychwyn, stopio, neu droi. Gwneud cyswllt llygaid â gyrwyr, a gadael iddynt wybod i chi'u gweld.
  • Marchogaeth mewn ffordd bendant. Peidio â gweu rhwng lonydd, neu newid cyfeiriad yn sydyn heb edrych a rhoi arwydd.
  • Defnyddio cyfleusterau beicio lle bynnag y bo modd; mae'r rhain yn cynnwys lonydd a llwybrau beicio, llinellau stopio blaen i feiciau ger goleuadau traffig.

Os yw llwybr beicio oddi ar y ffordd ac yn cael ei rannu â cherddwyr:

  • Cadw i ochr y beicwyr i'r ffordd, a fydd ag arwyddbyst neu arwyddion i'w nodi.
  • Gwylio am bobl a allai gael anhawster i symud o'ch ffordd. Enghreifftiau o'r rhain fyddai pobl hŷn, plant, a phobl ag anableddau.
  • Defnyddio eich cloch er mwyn gadael i bobl wybod eich bod chi yno.
  • Bod yn barod i arafu neu i stopio os bydd raid.

Beicwyr a'r Gyfraith - cofiwch fod y Gyfraith yn gwahardd beicwyr rhag gwneud y canlynol:

  • Neidio goleuadau coch, gan gynnwys goleuadau coch ger croesfannau i gerddwyr
  • Beicio ar balmentydd, oni bai fod arwydd yn dangos fod y palmant wedi cael ei droi'n drac seiclo  neu'n arwyneb cyd-ddefnyddio.
  • Beicio ar draws croesfannau i gerddwyr oni bai'u bod yn groesfannau twcan
  • Beicio gyda'r nos heb olau gwyn ar du blaen y beic, golau coch ar y cefn, ac adlewyrchydd coch ar y cefn.

Ydych chi'n teimlo nad oes gennych ddigon o hyder i ddilyn yr argymhellion uchod? Beth am gymryd rhan mewn sesiwn hyfforddiant beicio leol yn eich ardal? Mae hyfforddiant beicio yn ffordd wych i feithrin hyder ar feic mewn amgylchedd a reolir. A ydych chi'n dysgu beicio am y tro cyntaf? Neu a ydych chi'n datblygu eich cydbwysedd a rheolaeth, neu'n gwella eich sgiliau ar y ffordd? Bydd cynllun hyfforddi i weddu i'ch anghenion chi.

Hoffech chi ragor o wybodaeth? Croeso i chi ddefnyddio'r cysylltau isod.