Skip to main content

Trafnidiaeth gyhoeddus – gwybodaeth gyffredinol

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am gydlynu trafnidiaeth i deithwyr o fewn ei ardal.

Dolenni gwe Gweithredwyr Bysiau

Gwasanaethau bysiau – manylion cyswllt

Edwards Coaches, Yr Iard,
Parc Busnes Edwards; Llantrisant; Pont-y-clun; CF72 8QZ
Ffôn: 01443 202048

First Cymru Buses Ltd
Heol Gwyrosydd, Penlan, Abertawe SA5 7BN
Ffôn: 01792 572202

Harris Coaches (Pengam) Ltd
Bryn Gwyn, Fleur-de-lis, Coed-duon NP12 3RZ
Ffôn: 01443 832290

Keepings Coaches
Rheola House,Stryd Rheola,Aberpennar, CF45 3TE
Ffôn: 01443 478409

New Adventure Travel Ltd
Coaster Place, Caerdydd CF10 4XZ
Ffôn: 029 2044 2040

Stagecoach yn ne Cymru
Aberrhondda Road, Y Porth CF39 0LN
Ffôn: 01443 687682

6 Victoria Street, Merthyr Tudful CF47 8ED
Ffôn: 01685 388216

Thomas of Rhondda
Depo'r Bysiau, Aberrhondda Road, Y Porth CF39 0AG
Ffôn: 01443 433714

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am gydlynu trafnidiaeth i deithwyr o fewn ei ardal.

Mae hyn yn golygu gweithio gyda'r gweithredwyr bysiau a threnau lleol i gefnogi a datblygu gwasanaethau trafnidiaeth i deithwyr a hyrwyddo'u defnydd.

Y gweithredwyr preifat, fel Edwards Coaches, First Cymru, Harris Coaches (Pengam), Keepings Coaches, New Adventure Travel, Stagecoach De Cymru, Street Buses a Thomas of Rhondda, sy'n gweithredu'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau bysiau yn Rhondda Cynon Taf ar sail fasnachol lawn.

Maen nhw'n rhydd i gyflwyno neu i dynnu unrhyw wasanaeth yn ôl yn unol â'u dymuniad, cyn belled â'u bod nhw'n rhoi wyth wythnos o rybudd i'r Comisiynydd Traffig.

Does dim modd cynnal rhai teithiau yn fasnachol, felly, mae'r Cyngor yn darparu cymorth ariannol i weithredu teithiau ychwanegol. Fel arall, mae'n bosibl fyddai'r teithiau hyn ddim yn cael eu cynnal, yn arbennig gyda'r nos ac ar ddydd Sul. Mae hyn yn hefyd yn cefnogi rhai gwasanaethau bws yn ystod y dydd a gwyriadau, sy'n cael eu hystyried yn angenrheidiol yn gymdeithasol. Mae hyn yn gyfystyr â thua 7% o gyfanswm rhwydwaith y bysiau.

Yn Rhondda Cynon Taf, mae gweithredwyr wedi cynyddu nifer y bysiau sydd â mynediad hawdd ar gyfer teithwyr ag anableddau corfforol a synhwyrol, a defnyddwyr cadeiriau olwyn. Am ragor o wybodaeth, neu i gael gwybod a yw bysiau mynediad hawdd yn cael eu defnyddio yn rheolaidd ar gyfer y gwasanaeth rydych chi'n ei ddefnyddio, cysylltwch â'r gweithredwr perthnasol.

 

 phwy ydw i'n cysylltu pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le ar y bws?

 

Mae gweithredwyr gwasanaethau bysiau yn ceisio gwneud eu gorau glas i gynnal gwasanaethau o safon uchel, ond, weithiau, mae rhywbeth yn mynd o'i le, a dylai unrhyw gwynion gael eu cyfeirio atyn nhw yn y lle cyntaf..

Mae Bus Users UK yn gorff annibynnol sy'n bodoli er mwyn eich helpu chi i gael y gorau o'ch gwasanaeth bws. Os ydych chi o'r farn dydy gwasanaeth penodol ddim yn cael ei weithredu fel y dylai, neu os oes gennych chi bryderon am ddiogelwch y cerbyd rydych chi'n teithio arno, neu os ydych chi'n anfodlon ar eu hymateb, cysylltwch â:

Bus Users UK yng Nghymru

PO Box 1045
Caerdydd
CF11 1JE

Ffôn: 029 20 223170

Gwasanaethau rheilffyrdd – gwybodaeth gyffredinol

Trafnidiaeth Cymru sy'n gweithredu gwasanaethau trenau yn Rhondda Cynon Taf. Ym mis Hydref 2018, cymerodd y cwmni yr awenau o ran trenau rhyngdrefol a gwledig, a threnau ar gyfer cymudwyr ledled Cymru a siroedd y gororau.

Gwasanaethau rheilffyrdd – manylion cyswllt

 

Cysylltiadau Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru
3 Llys Cadwyn,
Pontypridd,
Rhondda Cynon Taf
CF37 4TH
Ffôn: 03333 211 202

E-bost: customer.relations@tfwrail.wales

Ymholiadau National Rail

Ffôn: 03457 48 49 50
Ffôn testun: 0345 60 50 600
www.nationalrail.co.uk

 

Gwasanaeth yr Iaith Gymraeg

board@welsh-language-board.org.uk

Gwasanaeth Gwybodaeth Trafnidiaeth Gyhoeddus Llywodraeth Cymru

Ffôn: 000 464 0000
Traveline Cymru
www.traveline.cymru

Cymorth

Mae cymorth ar gael ar gyfer cwsmeriaid ag anableddau neu gwsmeriaid sy'n cael anhawster wrth ymuno neu ymadael â'r trên. Mae Trenau Trafnidiaeth Cymruyn gofyn i gwsmeriaid sydd angen cymorth ffonio 0333 0050 501 ychydig ddyddiau cyn eu siwrnai i drefnu hyn.

 phwy ydw i'n cysylltu pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le ar y trên?

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch, ansawdd, prydlondeb a glendid. Mae'r cwmni yn gweithio'n gyson i wella ansawdd y gwasanaethau mae'n eu cynnig, ond, weithiau, mae rhywbeth yn mynd o'i le. Os cewch chi broblem, cysylltwch â:

Cysylltiadau Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru

3 Llys Cadwyn, Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF37 4TH
Ffôn: 03333 211 202
E-bost: customer.relations@trctrenau.cymru

Mae'n bosibl y bydd unrhyw gwynion sydd ddim yn cael eu datrys mewn modd boddhaol gan sefydliad Trafnidiaeth Cymru yn cael eu hatgyfeirio i gynllun The Rail Ombudsman, cynllun annibynnol newydd sydd wedi cael ei sefydlu i archwilio cwynion heb eu datrys ynghylch cwmnïau trenau a'r gwasanaethau maen nhw'n eu cynnig. Cysylltwch â:

The Rail Ombudsman
RHADBOST - RAIL OMBUDSMAN 

Visit: www.railombudsman.org
Rhif Ffôn: 0330 094 0362
Ffôn destun: 0330 094 0363
E-bost: info@railombudsman.org

Lle i brynu tocyn rheilffordd?

Mae modd i orsafoedd â staff roi tocynnau ar gyfer unrhyw daith o fewn Rhwydwaith Rheilffyrdd y DU er bod yna beiriannau tocynnau hunan-wasanaeth ar gael mewn nifer o orsafoedd eraill. I gael gwybod oriau agor gorsafoedd yn Rhondda Cynon Taf, ffoniwch Gysylltiadau Cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru ar 0333 3211 202. Lle does dim cyfleusterau ar gyfer prynu tocyn mewn gorsaf, gallwch chi brynu tocyn ar y trên.

Oes modd i mi ddefnyddio fy nhocyn trên ar y bws?

 

PlusBus yw tocyn sy'n eich galluogi chi i brynu tocynnau trên a bws ar yr un pryd. Gall prynu tocyn trên a bws gyda'i gilydd arbed arian i chi, ac mae'n fwy cyfleus. Gallwch chi brynu PlusBus o unrhyw orsaf rheilffordd wedi'i staffio, neu ar-lein:  www.trc.cymru  Mae'n ychwanegu teithiau bws diderfyn i unrhyw daith ar y rheilffyrdd sy'n dechrau/gorffen mewn gorsafoedd sy'n rhan o'r cynllun PlusBus. Ar hyn o bryd, mae 275 o drefi a dinasoedd yn rhan o'r cynllun. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.plusbus.info

Tocyn Dydd Newydd

Mae'r "Tocyn Diwrnod TrawsCymru®" yn rhoi'r hawl i chi deithio'n ddi-ddiwedd ar wasanaethau TrawsCymru® T1, T2, T3, T4, T5,  T6, T12, X43, 460 yn ogystal â T9 Bws Gwennol Maes Awyr Caerdydd rhwng canol y ddinas â'r maes awyr.  Gallwch brynu tocynnau o'r gyrrwyr ar y bws, sy'n ddilys tan siwrnai olaf y diwrnod hynny.
cy.trawscymru.info/prisiau-tocynnau

Manylion Cyswllt

Uned Trafnidiaeth Integredig,
Cyngor Rhondda Cynon Taf
Tŷ Glantaf, Uned B23
Heol Ffynnon Taf
Ystad Ddiwydiannol Trefforest
Pontypridd CF37 5TT

 

Ffôn: 01443 425001
E-bost:
CysylltiadauCyhoeddus@rctcbc.gov.uk

 

Tudalennau Perthnasol