Skip to main content

Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (arfaethedig)

Mae prosiect Metro Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn fenter allweddol o ran trafnidiaeth integredig a datblygiad economaidd. Mae'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad ag awdurdodau lleol y rhanbarth o ran materion trafnidiaeth a chynllunio, gan gynnwys Cyngor Rhondda Cynon Taf.

Yn rhan o'r prosiect Metro, mae comisiynu astudiaeth er mwyn archwilio'r opsiynau ar gyfer datblygu coridor teithio cyflym. Bydd y coridor yma'n cysylltu'r cymunedau sy'n ehangu'n gyflym yn ne-ddwyrain Rhondda Cynon Taf (fel Tonysguboriau a Llantrisant) â chanol Caerdydd. Yn rhan o gylch gorchwyl yr astudiaeth yma, bydd hi'n archwilio'r posibilrwydd technegol a gweithredol o ran adfer gwasanaeth i deithwyr ar hyd y rheilffordd segur rhwng Pont-y-clun a Beddau a'r posibilrwydd adeiladu llwybr rheilffordd ysgafn (tramiau) ar hyd aliniad arall drwy ogledd-orllewin Caerdydd.

ProposedCardiffCapitalRegionMetroNetwork-Cropped-478x349

 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Garfan Strategaeth Trafnidiaeth.

Cysylltu â ni

Carfan Strategaeth Trafnidiaeth

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

2 Llys Cadwyn

Pontypridd
CF37 4TH          

Ffôn: 01443 425001     

Gweld rhagor o wybodaeth am y prosiect Metro ar wefan Llywodraeth Cymru