Skip to main content

Cymorth Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)

Beth yw Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)? Dyna anghenion plant sydd â rhyw anawsterau dysgu neu anableddau sy’n gwneud dysgu neu gael budd o addysg yn fwy anodd iddyn nhw nag i'w cyfoedion.

Bydd gan lawer o blant Anghenion Addysgol Arbennig yn ystod eu haddysg.

Byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i helpu’n disgyblion i gyd gyrraedd eu llawn dwf, drwy sicrhau’u bod i gyd yn cael cyfle cyfartal i dderbyn addysg o'r radd orau. Fel arfer, byddan nhw'n cael cymorth yn eu sefydliadau addysg gynnar neu’u hysgolion prif ffrwd arferol, weithiau â chymorth arbenigwyr o’r tu allan.

Os oes gan eich plentyn anghenion addysgol arbennig, efallai bydd angen cymorth ychwanegol arnyn nhw mewn ambell i faes, er enghraifft:

  • Gwaith ysgol
  • darllen, ysgrifennu, gwaith â rhifau neu ddeall gwybodaeth
  • mynegi eu hunain neu ddeall beth mae pobl eraill yn ei ddweud
  • gwneud ffrindiau neu sefydlu perthynas gydag oedolyn
  • ymddwyn yn briodol yn yr ysgol
  • trefnu'u hunain
  • rhyw fath o anghenion synhwyraidd neu gorfforol a all effeithio arnyn nhw yn yr ysgol

Mae'r Gwasanaeth Cynnal Dysgu yn darparu amrediad eang o gymorth arbenigol i ddisgyblion a chyda nhw Anghenion Addysg Arbennig. Hoffech chi ragor o wybodaeth?  Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod:

Gwasanaeth Cynnal Dysgu, Cyfadran Addysg a Gwasanaethau i Blant

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,

Tŷ Trevithick,

Abercynon

Aberpennar

CF45 4UQ

Ffôn: 01443 744333