Skip to main content
 

Tudalen Arolwg ar Chwaraeon Ysgol

Mae Chwaraeon Cymru yn cynnal yr arolwg yma bob dwy flynedd. Disgyblion sy'n llywio'r Arolwg ar Chwaraeon Ysgol, gan ddarparu mewnwelediad amhrisiadwy mae modd ei ddefnyddio i ddylanwadu ar iechyd a lles pob plentyn mewn ffordd gadarnhaol. Drwy gwblhau'r arolwg, byddwch chi'n gallu gwneud defnydd o ystod eang o ddata am iechyd a lles disgyblion eich ysgol benodol chi. Bydd hyn yn eich galluogi chi i adnabod meysydd â chryfderau a rhai sydd angen eu gwella, yn ogystal â meysydd sy'n effeithio fwyaf ar lefelau gweithgaredd corfforol eich disgyblion. Mae modd i'n carfan eich cefnogi chi i gwblhau'r arolwg a datblygu prosiectau yn seiliedig ar eich adroddiad. 

Os gwblhaoch chi arolwg 2022 a bod angen cymorth arnoch chi gyda'ch canlyniadau, llenwch y ffurflen yma.

Isod, mae tri darlunoedd sy'n dangos y prif ystadegau ar gyfer Rhondda Cynon Taf.

2022 School Sport Survey - Rhondda Cynon Taf - Active Nation

2022 School Sport Survey - Rhondda Cynon Taf - Everyone

2022 School Sport Survey - Rhondda Cynon Taf - Provision 

Mae modd darllen yr adroddiad llawn yma.

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas