Skip to main content

Gorfodi rheolau sbwriel

Os byddwch chi'n gollwng neu'n gadael sbwriel mewn man cyhoeddus, byddwch chi'n cyflawni trosedd. Byddwch chi'n derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £100.00 am y drosedd yn unol â phwerau Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.
Hysbysiad Gorfodi Gofal y Strydoedd
Dewiswch yr Hysbysiad Gorfodi Gofal y Strydoedd ar y dudalen nesaf

Mae unrhyw fath o sbwriel yn cymryd amser hir i ddiflannu yn naturiol. Yn ôl Cadwch Brydain yn Daclus, dyma pa mor hir mae'n cymryd i eitemau bydru:

  • Bonion sigaréts – hyd at 15 mlynedd
  • Gwm cnoi – hyd at bum mlynedd
  • Croen orennau / Croen bananas / Creiddiau afalau – hyd at ddwy flynedd
  • Bagiau plastig – 10 i 20 o flynyddoedd
  • Caniau alwminiwm / Cewynnau – 80 i 100 o flynyddoedd
  • Poteli plastig – cyfnod amhenodol

Pam mae sbwriel yn bwnc llosg?

Yn ôl adroddiad blynyddol diweddar, roedd gwastraff sy'n gysylltiedig ag ysmygu, gwm cnoi a baw cŵn i'w gweld ar hyd nifer fawr o'r ffyrdd a mannau cyhoeddus a gafodd eu harchwilio.

Roedd canfyddiadau'r adroddiad yn siomedig dros ben. O ganlyniad, fy gwympodd sgôr ‘glendid’ cyffredinol y Fwrdeistref Sirol. Dyma siom fawr i'r rheini sy'n gweithio'n galed i sicrhau bod yr ardal yn lân ac yn wyrdd i bawb ei mwynhau.

Mae wedi dod i'r amlwg mai problem fwyaf Cymru o ran sbwriel yw gwastraff sy'n gysylltiedig ag ysmygu.

Mae'r Cyngor yn ymfalchïo yn amgylchedd Rhondda Cynon Taf, ac mae'n benderfynol o fynd i'r afael â phroblemau gwastraff sy'n gysylltiedig ag ysmygu, gwm cnoi, a baw cŵn, unwaith ac am byth.

Yn ogystal â pharhau i amddiffyn yr amgylchedd er budd pawb - gan gynnwys anfon timoedd o staff allan i godi sbwriel wedi ei ollwng gan bobl eraill - bydd y Cyngor hefyd yn addysgu ac yn gorfodi.

Mae'r Cyngor yn parhau i gydweithio ag ysgolion, grwpiau cymunedol a thrigolion er mwyn eu hatgoffa nhw o'r gyfraith, o'r rhesymau dros beidio â gollwng sbwriel ac o'r ffordd maen nhw'n gallu cyfrannu at amddiffyn yr amgylchedd.

Mae ymgyrch gorfodi materion sbwriel yn cael ei chynnal ochr yn ochr â'r gwaith yma. Yn rhan o'r ymgyrch, bydd unigolion sy'n cael eu dal yn gollwng gwastraff sy'n gysylltiedig ag ysmygu a gwm cnoi, neu unigolion sy'n gadael i'w cŵn faeddu mewn mannau cyhoeddus, yn cael eu hadnabod, yn cael dirwy neu hyd yn oed yn cael eu herlyn pan fydd hyn yn bosibl.

Mae gan y Cyngor dimoedd o swyddogion sydd wedi cael eu hyfforddi a'u hawdurdodi i ymdrin ag unigolion sy'n torri'r gyfraith. Os byddwch chi'n gollwng sbwriel ar y llawr neu'n ei daflu allan o ffenestr y car, byddwch chi'n derbyn dirwy neu hyd yn oed yn cael eich erlyn! 

Os bydda i'n gollwng sbwriel mewn man cyhoeddus, beth fydd yn digwydd?

O dan reoliadau Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, os byddwch chi'n gollwng neu'n gadael sbwriel mewn man cyhoeddus, byddwch chi'n cyflawni trosedd. Byddwch chi'n derbyn hysbysiad cosb benodedig o £100 am y drosedd yn unol â phwerau Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.

Pwy sy'n gallu cael dirwy?

O dan y rheoliadau, gall unrhyw un dros 10 oed gael dirwy am ollwng sbwriel. Yn Rhondda Cynon Taf, mae ein Swyddogion Gorfodi Materion Sbwriel yn treulio llawer o amser mewn ysgolion. Maen nhw'n cynghori ac yn hyfforddi plant rhwng 10 a 14 oed er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn â phroblemau gollwng sbwriel.

Ble galla i gael dirwy?

Os byddwch chi'n gollwng sbwriel mewn man cyhoeddus yn yr awyr agored yn Rhondda Cynon Taf, byddwch chi'n agored i gael cosb benodedig o £100. I beidio â chael dirwy, gwnewch yn siŵr eich bod chi bob tro yn rhoi eich sbwriel yn y bin sbwriel agosaf. Os fyddwch chi ddim yn gallu dod o hyd i fin sbwriel, ewch â'r sbwriel adref gyda chi a'i gael gwared arno yn y ffordd gywir.

Sut mae talu'r gosb?

Dyma sut i dalu'r gosb:

  • Bydd modd ichi dalu ar lein gyda cherdyn credyd / debyd.
  • Talu â siec neu archeb bost, yn daladwy i: "Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf’, a'i hanfon hi neu fynd â hi: Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd, Cyngor Rhondda Cynon Taf, Tŷ Glantaf, Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, Pontypridd CF37 5TT.

Os fydda i ddim yn talu'r gosb, beth fydd yn digwydd?

Os byddwch chi'n cael Hysbysiad Cosb Benodedig gan un o'r Swyddogion Gorfodi Materion Sbwriel, bydd disgwyl i chi, yn unol â thelerau'r gosb, ei thalu o fewn 14 diwrnod o gyhoeddi'r hysbysiad.

Os byddwch chi'n dewis peidio â thalu'r gosb o fewn 14 diwrnod, bydd y Cyngor yn ceisio bwrw ymlaen â threfniadau i'ch erlyn chi drwy achos llys. Mae hyn yn rhan o bolisi'r Awdurdod i wella'r amgylchedd ac i leihau achosion o droseddau amgylcheddol y tu mewn i ffiniau Rhondda Cynon Taf. 

Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd

Gwasanaeth Gofal Strydoedd Rhondda Cynon Taf,
Tŷ Glantaf
Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest
Pontypridd
CF37 5TT

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 844310