Mae casgliadau gwastraff gwyrdd (o’r ardd) yn wasanaeth RHAD AC AM DDIM i drigolion Rhondda Cynon Taf. Mae angen i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth yma.
Sut mae'n gweithio
Mae angen i chi gofrestru i ddechrau manteisio ar gasgliadau.
Mae gwastraff gwyrdd yn cynnwys gwastraff naturiol o'r ardd a phlanhigion. Mae casgliadau'n rhad ac am ddim ac maen nhw'n cael eu casglu o ymyl y ffordd. Rydyn ni'n anfon eich gwastraff i gael ei gompostio, felly does dim rhaid i chi fynd ag ef i'r ganolfan ailgylchu yn y gymuned.
O fewn pythefnos o gofrestru, byddwch chi'n derbyn dwy sach gwastraff gwyrdd am ddim ac unrhyw sachau ychwanegol rydych chi wedi'u harchebu. Mae modd i chi archebu rhagor o sachau gwastraff gwyrdd am £3.20 yr un pan fyddwch chi'n cofrestru neu ar ddyddiad diweddarach.
Mae sachau gwastraff gwyrdd wedi'u cofrestru i gyfeiriad, nid person. Os byddwch chi'n symud, dylech chi adael unrhyw sachau yn y cyfeiriad y cawson nhw eu harchebu iddo'n wreiddiol.
Mae casgliadau'n cael eu gwneud ar amserlen gasglu'r haf a'r gaeaf.
Mae modd mynd â Gwastraff Gwyrdd i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned lleol hefyd.
I roi sachau gwastraff gwyrdd allan i'w casglu:
- Cofrestrwch ar gyfer casgliadau cewynnau.
- Labelwch eich sachau gydag enw neu rif eich tŷ
- Gwiriwch eich diwrnod casglu gwastraff gwyrdd yn yr haf
- Gwnewch gais am gasgliad gwastraff gwyrdd y gaeaf yn y gaeaf.
- Rhowch wastraff gwyrdd yn unig yn eich sachau gwastraff gwyrdd RhCT
- Defnyddiwch y sach gwastraff gwyrdd a ddarparwyd gennym ni yn unig
- Peidiwch â gorlenwi'ch sachau, dylai'r holl wastraff fod o fewn y sachau.
- Croeswch handlenni'r sach
- Rhowch eich sachau yn eich man casglu arferol erbyn 7am ar eich diwrnod casglu
Cofrestru ar gyfer casgliadau
Cofrestrwch eich cyfeiriad i fanteisio ar gasgliadau gwastraff gwyrdd a sachau.
O fewn pythefnos o gofrestru byddwch chi'n derbyn dwy sach gwastraff gwyrdd am ddim ac unrhyw sachau ychwanegol rydych chi wedi'u harchebu. Mae modd i chi archebu mwy o sachau gwastraff gwyrdd am £3.20 yr un pan fyddwch chi'n cofrestru neu ar ddyddiad diweddarach.
Mae sachau gwastraff gwyrdd wedi'u cofrestru i gyfeiriad, nid person. Os byddwch chi'n symud, dylech chi adael unrhyw sachau yn y cyfeiriad y cawson nhw eu harchebu iddo'n wreiddiol. Os nad oes sachau wedi'u gadael, rhowch wybod am y sachau coll
Cofrestru ar gyfer Casgliadau Gwastraff Sachau Gwyrdd
Casglu gwastraff gwyrdd yr haf
Mae casgliadau Gwastraff Gwyrdd yr Haf yn cael eu casglu rhwng Dydd Llun 15f Mawrth 2027 i ddydd Gwener 19 Tachwedd 2027. Bydd casgliadau'n digwydd yn awtomatig ar eich diwrnod casglu biniau arferol.
Trefnu casgliad y gaeaf
Mae casgliadau Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf yn cael eu casglu rhwng 23 Tachwedd 2026 a 12 Mawrth 2027. Yn ystod y cyfnod yma, mae angen i chi drefnu casgliad bob tro y bydd gyda chi wastraff gwyrdd i ni ei gasglu.
Trefnu casgliad y gaeaf
neu
Ffôn: 01443 425001
Yr hyn mae modd i chi ei roi yn eich sachau a'r hyn does dim modd i chi ei roi yn eich sachau
Le:
- Gwair
- Tocion Gwrychoedd
- Dail
- Blodau
- Peli gwreiddiau blodau
- Blawd llif
- Gwely ar gyfer anifeiliaid bach mewn cwt
Na:
- Gwastraff bwyd
- Gwastraff cyffredinol
- Pridd, mwd neu blociau clai
- Rwbel
- Planhigion ymledol (e.e. Canclwm Siapan)
- Pren, canghennau neu foncyffion
- Addurniadau gardd a theganau
Fyddwn ni ddim yn casglu eich sachau os ydyn nhw'n cynnwys y gwastraff anghywir.
Mae modd cael gwared ar eitemau nad oes modd eu hailgylchu yn eich sach gwastraff gwyrdd yn eich Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned
Archebu mwy o sachau
Os ydych chi wedi cofrestru mae modd i chi brynu sachau ychwanegol am £3.20 yr un. Mae pob sach yn dal 90 litr (45cm x 45cm x 45cm). Mae hynny'n cyfateb i gyfaint dau a hanner o fagiau ailgylchu clir.
Prynu sachau gwastraff gwyrdd ychwanegol
Rhoi gwybod am wastraff sydd heb gael ei gasglu
Efallai y bydd ein criwiau'n rhedeg yn hwyr ac efallai na fyddan nhw'n casglu eich gwastraff gwyrdd tan yn ddiweddarach yn y dydd.
Os ydych chi wedi cofrestru ac nad yw eich gwastraff gwyrdd wedi cael ei gasglu ar eich diwrnod casglu arferol, gallwch chi roi gwybod am wastraff heb ei gasglu ar y diwrnod canlynol.
Rhoi gwybod am wastraff sydd heb gael ei gasglu
Rhoi gwybod am sachau sydd ar goll, neu sachau wedi'u difrodi neu wedi'u dwyn.
Os ydych chi wedi cofrestru a bod eich sach gwastraff gwyrdd ar goll, wedi'i difrodi neu ei dwyn, mae modd i chi roi gwybod am hyn ar-lein.
Dydyn ni ddim yn derbyn cyfrifoldeb am draul / ôl draul.
Rhoi gwybod am sachau sydd ar goll, neu sachau wedi'u difrodi neu wedi'u dwyn
Canslo eich casgliadau
Mae modd i drigolion ganslo casgliadau gwastraff gwyrdd ar-lein. Bydd eich sachau'n cael eu cymryd i ffwrdd ar eich diwrnod casglu gwastraff gwyrdd nesaf. Does dim modd eich ad-dalu ar gyfer sachau ychwanegol a gafodd eu harchebu.
Canslo eich Casgliadau Gwastraff Gwyrdd