Yn dilyn llwyddiant y Canolfannau Croeso yn y Gaeaf yn ystod blynyddoedd blaenorol , mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn awyddus i weithio gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau nid-er-elw fyddai â diddordeb mewn cofrestru i ddod yn Fan Diogel a Chynnes.
Bydd y mannau diogel a chynnes yn amrywio o leoliad i leoliad, ond byddan nhw'n cynnwys:
- Man hygyrch, croesawgar i drigolion RhCT (mynediad agored)
- Diodydd twym a byrbrydau (mae modd ymestyn hyn i bryd o fwyd mwy lle bo modd)
- Cyngor a chymorth i drigolion
- Gweithgareddau megis ymarfer corff, gemau, celf a chrefft
Mae modd i’r Mannau Diogel a Chynnes yma weithredu'n annibynnol, neu mae modd gwneud cais yn rhan o Gronfa Mannau Diogel a Chynnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i geisio cyllid gwerth hyd at £1,500.
I gofrestru’n Fan Diogel a Chynnes lHEB gymorth cyllid, cliciwch yma.
Nodwch: Bydd yr holl Fannau Diogel a Chynnes yn cael eu hysbysebu ar wefan y Cyngor. Peidiwch â defnyddio rhifau ffôn na chyfeiriadau personol.
Cliciwch ar y ddolen isod i gyflwyno cais am gyllid yn rhan o Gronfa Mannau Diogel a Chynnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: LINK
Cyfnod ymgeisio: Bydd Cronfa Mannau Diogel a Chynnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn agor ddydd Llun 22 Medi 2025 am 9.30am ac yn cau ddydd Gwener 10 Hydref am 5pm. Dim ond hyn a hyn o gyllid sydd ar gael. Bydd ceisiadau'n cael eu hasesu a'u hystyried ar ddiwedd y cyfnod ymgeisio.
Templed i’w ddefnyddio wrth lunio cais yn unig.
Mae Cronfa Mannau Diogel a Chynnes Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cael ei hariannu'n allanol gan Lywodraeth Cymru.
Rhestr o Fannau Diogel a Chynnes yn RhCT.