Skip to main content

Y Sied – Siopau Ailddefnyddio

Nod Siopau Ailddefnyddio'r Sied yw darparu cyfleusterau ailgylchu ac ailddefnyddio ychwanegol i drigolion yn ardal Rhondda Cynon Taf.

the-shed-logo


Mae'r Sied yn rhoi cyfle i drigolion brynu eitemau sy'n cael eu gadael gan y cyhoedd yn y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. Bydd y siop yn adnewyddu eitemau megis llyfrau, teganau, beiciau, llestri, addurniadau, dodrefn a llawer o eitemau eraill byddai wedi cael eu taflu gan aelodau'r cyhoedd fel arall. Mae'r silffoedd a'r gofod llawr bob amser yn llawn eitemau amrywiol gyda llawer o drysorau yn barod i'w darganfod. 

Dilynwch @TheShedCommunity ar Facebook am y newyddion diweddaraf neu ewch i www.rctcbc.gov.uk/YSied

Mae Siopau Ailddefnyddio'r Sied wedi'u lleoli yn:

Lleoliad

Oriau agor

Y Sied, Llantrisant, Uned 2 Ffordd Prichard, Parc Busnes Llantrisant, Llantrisant, CF72 8LF.

 

7 diwrnod yr wythnos, 9.30am tan 4pm 

Y Sied, Treherbert, Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned Treherbert, Ystad Ddiwydiannol Treherbert, Treherbert, CF42 5HZ

 

Llun – Sadwrn, 9.30am tan 4pm.

Y Sied, Aberdâr, 31 /31 Stryd y Canon, Aberdâr, CF44 7AP

 

Llun – Sadwrn, 9.30am tan 4pm.

Mae'r eitemau sydd ar werth wedi cael eu gweddnewid ar ôl cyrraedd Canolfannau Ailgylchu Llantrisant, Aberdâr a Threherbert. Mae modd eu prynu o'r siopau am brisiau rhagorol.

Mae'r siopau'n gwerthu eitemau sydd wedi'u gadael gan y cyhoedd a gwirfoddolwyr yn y Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. Mae croeso i chi roi eitemau i'r siopau hefyd. Ydych chi ar fin cychwyn am y Ganolfan Ailgylchu? Oes gyda chi eitemau sy'n addas i'w hailddefnyddio? Beth am eu rhoi?

Rydyn ni'n croesawu llyfrau, teganau, beiciau, llestri, addurniadau, DVDs,  dodrefn, a llu o eitemau eraill. Mae fel arwerthiant cist car - dydych chi byth yn gwybod beth allech chi ddod o hyd iddo!

Bydd cynorthwywyr a gwirfoddolwyr yn gwirio bod yr eitemau mewn cyflwr gweithio diogel a da. Wedyn byddan nhw'n eu glanhau a'u rhoi ar werth. 

Mae'r Sied yn sicrhau bod mwy a mwy o eitemau y mae modd eu hailgylchu yn cael eu cadw allan o safleoedd tirlenwi, gan adeiladu ar y momentwm sy wedi'i greu eisoes gan y Cyngor wrth wella'i record ailgylchu.

Yn ystod mis Mai 2017, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru fod mwy na 64% o wastraff Rhondda Cynon Taf wedi cael ei ailgylchu yn 2016 - y ganran uchaf erioed ers 12 mis yn Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn golygu bod gweithgarwch ailgylchu'r ardal yn uwch na'r cyfartaledd yng Nghymru. Bydd mentrau fel Y Sied yn cynorthwyo'r Cyngor i fwrw targed 70% Llywodraeth Cymru erbyn 2024-25.

Mae modd i'r Sied ailddefnyddio ac ailgylchu eich eitemau. 

V

Tudalennau Perthnasol