Dewch yn llu i archwilio pyllau a nentydd yn y bore bach ym Mharc Gwledig Cwm Dâr. Beth sy’n byw o dan y dŵr? Dysgwch sut mae’r anifeiliaid hynny’n byw yn yr amgylchedd hwnnw a pha greaduriaid sy’n bwyta creaduriaid eraill. Dyma achlysur i bawb o bob oed, ond rhaid i blant fod yng nghwmni oedolion. Byddwn ni’n cwrdd yn y buarth am 10am ar 21 Awst. Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd. Ffoniwch y Parc Gwledig i gadw lle.