Amser: 7pm - 10pm
Ymunwch yn ein dathliad Carolau'r Nadolig blynyddol ar gyfer elusen 'Hearts of Gold'. Cynhelir y cyngerdd yn Eglwys y Santes Catrin yng nghanol Pontypridd, 7 Rhagfyr. Bydd y cyngerdd yn llawn carolau a chaneuon ac yn uchafbwynt i'ch calendr o achlysuron y Nadolig.
Dyma'r ffordd berffaith i ymuno yn ysbryd y Nadolig. Peidiwch â cholli'r noson arbennig yma sy'n llawn o'ch hoff ganeuon ac sy'n addas i'r teulu cyfan. Mae tocynnau ar werth NAWR!