Amser: 10am - 4pm
£3.50 y plentyn. Oedolion - AM DDIM
Mae achlysur Rhialtwch Calan Gaeaf 2018 yn cynnwys:
Sioe Calan Gaeaf
Ymunwch â'r hwyl a sbri gyda'r cyflwynydd teledu i blant a diddanwr, Chunky Russell, wrth iddo ddychwelyd i ddathu Calan Gaeaf gyda ni!
Helfa Pwmpenni
Casglwch eich taflen waith ac ewch ati i ddarganfod ein pwmpenni, cofiwch gasglu'r holl symbolau ac efallai cewch chi losin (neu lanast!).
Creu Mygydau
Casglwch dempled eich mwgwd ac ewch at bob un o'r gorsafoedd celf rhyngweithiol gan ychwanegu rhagor o addurniadau at eich mwgwd ar bob gorsaf.
Paentio Wynebau*
Calan Gaeaf yw'r cyfnod perffaith i ddewis gwisg ffansi a phaentio wynebau. Bydd gyda ni un o'r artistiaid paentio wynebau gorau yn Ne Cymru.
Gweithgareddau Celf a Chrefft*
Ymunwch â chwmni Craft of Hearts i greu cofroddion Calan Gaeaf iasol.
Cerfio Pwmpenni*
Ymunwch â ni i gerfio pwmpenni ar gyfer Calan Gaeaf
(*bydd costau ychwanegol/angen cadw lle ar gyfer y gweithgareddau yma)
Cadwch Le Nawr