Mae Gŵyl Gerdded Cymoedd De Cymru 2018 yn berffaith i unrhyw un sy'n dymuno mynd ar antur yn ein cefn gwlad prydferth. Mae 3 taith gerdded yn Rhondda Cynon Taf yn rhan o'r ŵyl.
Cadwch le ar daith gerdded Cwm Clydach, Y Bwlch ac Ogwr Fach yma (2 Medi). Cerddwch heibio'r tyrbinau gwynt ar ben Mynydd yr Aber – byddwch chi wrth eich boddau yn gweld golygfeydd anhygoel Cymoedd y Rhondda, sy'n fyd enwog.
Cadwch le ar daith gerdded "Olion Traed Glanffrwd" yma (10 Medi). Taith gerdded hawdd drwy goedwig Sant Gwyno. Ewch heibio rhaeadr a chronfa ddŵr Cwm Clydach a galw heibio i Ganolfan Awyr Agored Daerwynno ar gyfer te a bisgedi.
Cadwch le ar daith gerdded "Pen y Foel – Hanes y Cwm" yma (17 Medi). O gopa Pen y Foel, bydd modd ichi weld Môr Hafren a'r Bannau Brycheiniog.