Dewch am dro gyda ni o gwmpas Parc Gwledig Cwm Dâr i weld y Pili Palaod Prydferth. Dysgwch sut i'w hadnabod a sut i greu eich bwydwr pili pala eich hun i'w ddefnyddio gartref. Mae croeso i bobl o bob oedran yn yr achlysur, ond rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Cyfarfod ar yr iard am 1.30pm ar 25 Awst.
Parc Gwledig Cwm Dâr 25 Awst am 1.30pm