Gyrfa mewn gofal yw un o'r pethau mwyaf gwerth chweil mae modd i chi ei wneud.
Mae'n gyfle i gefnogi byw'n annibynnol neu'n ddiogel ac mae llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygu gyrfa ac ennill cymwysterau proffesiynol.
Mae amrywiaeth o gyfleoedd ym maes gofal yn RhCT ac mae Cymunedau am Waith a Mwy wedi trefnu achlysur anffurfiol lle mae modd ymuno â'r rheiny sydd eisoes yn gweithio ym maes gofal i ddysgu rhagor am eu gyrfa a pham eu bod yn dwlu arni gymaint.
Bydd yno hefyd amrywiaeth o asiantaethau sy'n awyddus i recriwtio staff newydd. Treuliwch amser yn eu cwmni nhw gyda the a theisen.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01443 425761