Rydyn ni'n gwahodd pobl i ddod i dalu teyrnged yn y Gorymdaith a Gwasanaeth Sul y Cofio ym Mharc Coffa Ynysangharad, ddydd Sul 14 Tachwedd, 2021.
Eleni, bydd yr achlysur yn cael ei gynnal yn gyfan gwbl yn y parc - bydd dim gwasanaeth yn Eglwys y Santes Catrin fel a gafwyd yn y gorffennol.
Bydd yr orymdaith yn cychwyn o ardal y cyrtiau tenis am 10.35am ac yn teithio o amgylch y parc, gan fynd i fyny'r Goedlan Fawr i’r Goedlan Uchafsy'n rhedeg ar hyd Stryd y Bont ac yna i lawr y Goedlan Gefn i'r safle seindorf a'r Gofeb Ryfel.
Ger y Gofeb Ryfel, bydd dwy funud o ddistawrwydd, bydd torchau yn cael eu gosod a bydd gwasanaeth dan arweiniad y Parchedig Charlotte Rushton o Eglwys y Santes Catrin, Pontypridd.
Nodwch: Mae parcio ym Mhontypridd am ddim ym mhob Maes Parcio sy'n eiddo i Gyngor Rhondda Cynon Taf ar ddydd Sul ac mae'r parc o fewn pellter cerdded i'r orsaf reilffordd a'r orsaf fysiau.
Bydd arbenigwyr achlysuron ar y safle drwy'r amser a bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol, hylif diheintio dwylo a mesurau diogelwch eraill ar y safle i gadw pawb yn ddiogel. Gofalwch eich bod chi'n cadw at yr arwyddion ac yn dilyn cyfarwyddiadau gan staff trwy gydol yr achlysur.