Skip to main content

Gwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio Pontypridd

 
 
Lleoliad
Ynysangharad War Memorial Park
Date(s)
Dydd Sul 10 Tachwedd 2024
Cyswllt

Ebost: achlysuron@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 424123

Disgrifiad
parade resized
Dyma wahoddiad i bawb o bob cwr o Rondda Cynon Taf ddod at ei gilydd yng Ngwasanaeth a Gorymdaith Sul y Cofio Pontypridd, i dalu teyrnged i'r rheiny a wnaeth yr aberth eithaf dros eu gwlad.Bydd yr achlysur, sy'n cael ei gynnal mewn partneriaeth â Chyngor Tref Pontypridd, yn cael ei gynnal ddydd Sul 10 Tachwedd ym Mharc Coffa Ynysangharad, 10:35am. Bydd gorymdaith trwy'r parc fydd yn cynnwys pobl o bob oed yn cynrychioli sefydliadau cymunedol a milwrol amrywiol.Bydd gwasanaeth yn cael ei gynnal wrth y gofeb ryfel hefyd. Dyma gyfle i bawb weddïo ac ymuno â dwy funud o dawelwch i fyfyrio a chofio’r rheiny a roddodd eu bywydau i wasanaethu dros eu gwlad.Mae hefyd yn gyfle i'r Cyngor a'i gymunedau ailddatgan eu cefnogaeth i aelodau Cymuned y Lluoedd Arfog ddoe a heddiw.Mae Gwasanaethau ac Achlysuron coffa yn cael eu cynnal ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'r rhain yn cael eu trefnu gan gynghorau tref a grwpiau lleol. Mae gwybodaeth am y rhain yn eich ardal leol.
Digwyddiadau i ddod

Cysylltwch â ni

Carfan Achlysuron Rhondda Cynon Taf

Ebost: achlysuron@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 424123

Join us on Facebook
Join us on Twitter