Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnal ei Ffair Swyddi hynod lwyddiannus y mis yma.
Bydd amrywiaeth enfawr o ddarpar gyflogwyr wrth law i gwrdd â chi. Gall y rhai sy'n chwilio am gyflogaeth neu sydd am symud ymlaen yn eu gyrfa neu wella'u haddysg ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ystod yr achlysur.
Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal yn adeilad Llys Cadwyn ym Mhontypridd ddydd Mercher, 25 Medi 2024. Bydd ar agor o 10.00am tan 2.00pm i aelodau'r cyhoedd. Yn ogystal â hynny, bydd awr dawel o 9.00am ar gyfer unigolion sydd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig neu anableddau eraill.
Bydd yr achlysur yn cynnwys ystod eang o gyflogwyr, sydd i gyd yn ceisio hyrwyddo a rhannu eu gyrfaoedd a'u cyfleoedd hyfforddi.
Bydd yr achlysur hefyd yn cynnwys gweithdai ar ein Cynllun Prentisiaethau a gwneud cais am swydd, ac argymhellion defnyddiol o ran mynychu cyfweliadau.
Mae'r arddangoswyr canlynol wedi cadarnhau byddan nhw'n dod:
- Canolfan Cyngor ar Bopeth
- Yr Urdd
- Catalyddion Cymunedol
- Thrive Group Wales
- Simbec Orion
- Prichard's
- R&M Williams CYF
- Acorn Recruitment
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru
- MPS Industrial
- Ty'r Cwmniau
- Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg
- Gwasanaethau i Blant Cyngor Rhondda Cynon Taf
- Swyddi Gwag RhCT
- Gwasanaethau Democrataidd RhCT
- Trafnidiaeth Cymru
- Arc Rail
- Apollo Teaching
- New Directions
- Teacher Active
- VES Recruitment
- Supply Desk
- EE
- Papyrus
- Edwards Coaches
- Screen Alliance Cymru
- BBC Cymru
- Dwr Cymru
- Marie Curie
- Drive
- Q Care
- Cartrefi
- Coleg Y Cymoedd
- Q Care
- Cartrefi
- Coleg Y Cymoedd
- ACT
- People Plus
- Business Wales
- Working Wales/Careers Wales
- RCT Citizens' Advice
- Foster Wales
- ITEC
...a llawer mwy!