Skip to main content

Y Tu Mewn i Lys Cadwyn - Taith Rithwir

 
 

Mae datblygiad Llys Cadwyn yng nghanol tref Pontypridd, gwerth £38miliwn, bellach wedi'i gwblhau'n swyddogol - ac mae modd i chi fynd ar daith rithwir 360 gradd o amgylch ei adeilad porth, yma ar wefan y Cyngor.

Trosglwyddodd y contractwr Willmott Dixon y datblygiad i'r Cyngor ym mis Hydref 2020. Rhif 1 Llys Cadwyn (sydd fwyaf agos at Stryd y Bont) yw'r adeilad porth, gan gynnwys llyfrgell ar gyfer yr 21ain Ganrif, man cyswllt ar gyfer cwsmeriaid y Cyngor, a chanolfan ffitrwydd/hamdden o'r radd flaenaf.

Llys Cadwyn complete 2
Llys Cadwyn complete 3

Mae Llys Cadwyn Rhif 2 (yr adeilad canol) yn cynnwys gofod llawr swyddfa Gradd A ac uned bwyd / diod, tra bod Rhif 3 Llys Cadwyn yn bencadlys newydd i weithredwr Metro De Cymru, Trafnidiaeth Cymru. Mae'r ardaloedd yn yr adeiladau a'u cwmpas yn hygyrch i'r cyhoedd, gan gynnwys Rhodfa newydd Dyffryn Taf ger yr afon.

Llys Cadwyn complete 4
Llys Cadwyn complete 5

Nawr mae modd i chi edrych o gwmpas y tu mewn i Rif 1 Llys Cadwyn a'r tir o amgylch yr adeilad, gyda'r Daith Rithwir yn y ddolen isod.

Cyfarwyddiadau'r Daith Rithwir

Bydd y daith rithwir yn cychwyn ar y bont newydd o Barc Ynysangharad i Lys Cadwyn, a bydd yn symud yn awtomatig o un rhan o'r datblygiad i'r nesaf - gan dreulio ychydig o amser ym mhob rhan. Bydd y daith yn symud o'r bont i'r tir o amgylch yr adeilad, ac yna i ardaloedd y cyntedd, llyfrgell a'r gampfa yn Rhif 1 Llys Cadwyn.

Mae modd i chi oedi'r Daith Rithwir ar unrhyw adeg, gan ddefnyddio'r botymau yng nghornel dde uchaf y sgrin. Ar ôl oedi, mae modd i chi 'fachu'r' sgrin trwy glicio a dal arni. Bydd hyn yn caniatáu ichi edrych o gwmpas yr ardal rydych chi ynddi. Symudwch eich bysedd oddi ar y sgrîn i barhau â'r daith a symud i'r ardal nesaf, neu defnyddiwch y botymau yn y gornel dde uchaf.

Efallai y bydd angen i chi ddiweddaru'ch porwr gwe er mwyn mwynhau'r Daith.

RCT CBC Logo
ERDF Logo
Willmott Dixon logo