Skip to main content

Y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Phrosiectau Strategol

 
Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn cyflawni rhaglen gyfalaf fawr ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Phrosiectau Strategol, gan gynrychioli elfen fawr o'r buddsoddiad Trawsnewid RhCT. Gwerth rhaglen 2025/26 oedd £29.6 miliwn pan gytunwyd arni ym mis Mawrth 2025, ac mae £7.5 miliwn ychwanegol erbyn hyn gyda chyllid newydd y cytunwyd arno ar gyfer blaenoriaethau'r Cyngor ym mis Medi 2025.

Mae cyllid pellach gan Lywodraeth Cymru yn aml yn cael ei ychwanegu at y rhaglen, sy'n cynnwys nifer o feysydd buddsoddi – o osod wyneb newydd ar ffyrdd a llwybrau troed i ddarparu cyllid ar gyfer lliniaru llifogydd, cynnal a chadw tomenni glo, strwythurau priffyrdd a strwythurau parciau, meysydd parcio a theithio llesol. Rydyn ni hefyd yn parhau i ddatblygu dau gynllun trafnidiaeth mawr ar gyfer y dyfodol, un yn Llanharan ac un yng ngogledd Cwm Cynon.

Mae modd gweld rhagor o fanylion am fuddsoddiad cyfalaf eleni, yma:

Cyllid Priffyrdd a Chludiant wedi’i gytuno ar gyfer y flwyddyn i ddod (Mawrth 2025)

Buddsoddiad ychwanegol ar gyfer priffyrdd a thrafnidiaeth eleni (Medi 2025)

Dyma rai agweddau allweddol ar fuddsoddiad eleni:

  • Cyllid gwerth dros £10 miliwn ar gyfer gosod wyneb newydd ar ffyrdd, gyda 78 o gynlluniau y cytunwyd arnyn nhw ym mis Mawrth 2025, a 39 ychwanegol y cytunwyd arnyn nhw ym mis Medi 2025. Mae pedwar cynllun ffyrdd heb eu mabwysiadu hefyd yn cael eu cyflawni gan ddefnyddio cyllid y Cyngor a bydd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru a gafodd ei sicrhau ym mis Ebrill 2025, yn ychwanegu at y rhaglen yma.
  • Cyllid gwerth dros £900,000 ar gyfer adnewyddu llwybrau troed, gyda saith cynllun y cytunwyd arnyn nhw ym mis Mawrth 2025 a 12 cynllun ychwanegol y cytunwyd arnyn nhw ym mis Medi 2025.
  • Dros £6 miliwn wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer lliniaru llifogydd trwy'r Grant ar gyfer Gwaith ar Raddfa Fach, Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Chronfa Ffyrdd Cydnerth. Mae'r Cyngor yn rhoi cyllid cyfatebol, sef 15% fel arfer, ar gyfer yr holl waith o dan y rhaglenni yma.
  • Bron i £10 miliwn ar gyfer strwythurau priffyrdd, £250,000 ar gyfer strwythurau parciau, £330,000 ar gyfer goleuadau stryd, a £40,000 ar gyfer meysydd parcio. Mae prosiect strwythurau mawr y Bont Wen, Pontypridd, i'w weld yn y llun isod. Cafodd y prosiect ei gwblhau yn 2024/25 a'i ddathlu yng Ngwobrau Sefydliad y Peirianwyr Sifil Cymru.

White Bridge completed

 

  • £500,000 ar gyfer cyfleusterau Parcio a Theithio, gan greu lleoedd parcio ychwanegol mewn gorsafoedd rheilffyrdd. Yn rhan o hyn, cafodd prosiect Parcio a Theithio Treorci ei gwblhau yn 2025.
  • Dros £6 miliwn wedi'i sicrhau trwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru i ddatblygu cynlluniau rhwng Tonysguboriau a Llanharan, a Threorci a Threherbert, yn ogystal â gwaith parhaus i gyflawni Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach.

Mae'r lluniau isod yn dangos rhannau o gam pedwar, a gyflawnwyd yn yr haf, 2025:


Rhondda Fach phase four grid

  • Gwaith parhaus i ddatblygu dau gynllun trafnidiaeth mawr ar gyfer y dyfodol. Cafodd dros £8 miliwn ei ddyrannu i Goridor Trafnidiaeth Cynaliadwy Llanharan yn rhan o raglenni cyfalaf mis Mawrth a Medi, yn ogystal â dros £3.1 miliwn ar gyfer Porth Gogledd Cwm Cynon yr A465.
  • Dros £11.4 miliwn wedi'i sicrhau trwy Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru, er mwyn monitro a chynnal a chadw tomenni glo yn Rhondda Cynon Taf yn 2025/26, gyda'r gwaith yn cael ei gynnal gan ein carfan benodol ar gyfer Diogelwch Tomenni Glo. Mae hyn yn cynnwys parhau â Chynllun Adfer Tirlithriad Tylorstown - Tirlithriad Tylorstown, Proses Adfer
  • Tua £280,000 wedi'i sicrhau trwy Gronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru, er mwyn datblygu a darparu cynllun lleol yng Nghwm-parc.

Mae'r Cyngor hefyd yn parhau i gefnogi Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Metro De Cymru, a fydd yn trydaneiddio llinellau Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful, a chynyddu amlder trenau.

Y diweddaraf am waith gosod Mannau Gwefru Cerbydau Trydan