Mae gwasanaeth Hamdden am Oes Cyngor Rhondda Cynon Taf yn un o'r rhai mwyaf helaeth a chynhwysol yng Nghymru – ac mae'n cael ei ategu gan fuddsoddiad wedi'i thargedu mewn cyfleusterau lleol. Mae'r cynlluniau diweddaraf sy'n cael eu datblygu yn Abercynon ac Ystrad yn rhan o'n buddsoddiad Trawsnewid RhCT.
Nod y gwasanaeth yw sicrhau bod modd i drigolion, waeth beth fo'u hoedran, incwm neu ddyheadau o ran iechyd a lles, gael mynediad at gyfleusterau o ansawdd uchel, sy'n hygyrch ac yn addas.
Mae mynediad diderfyn i gampfeydd, dosbarthiadau ffitrwydd, pyllau nofio (gan gynnwys gwersi), chwaraeon dan do fel sboncen a thenis bwrdd ac ystafelloedd iechyd ar gael drwy un cynllun aelodaeth hawdd sy'n cwmpasu'r 12 canolfan i gyd.
Cynigir aelodaeth gonsesiynol i'r rheiny sy'n:
- Derbyn budd-daliadau cymwys.
- Deiliaid cerdyn Golau Glas/Lluoedd Arfog.
Yn unol ag amcanion ehangach y Cyngor, mae Cynlluniau Aelodaeth Canol Tref a Chorfforaethol Hamdden am Oes yn helpu busnesau a sefydliadau i gefnogi gweithluoedd iachach.
Mae'r gwasanaeth hefyd yn gweithio gyda phartneriaid o asiantaethau iechyd, iechyd meddwl a chymorth i ddarparu cyfleoedd, sesiynau, hyfforddiant a rhagor. Mae'r rhain wedi'u teilwra'n arbennig i'r bobl sydd eu hangen fwyaf, yn ogystal â sesiynau nofio am ddim a gweithgareddau gwyliau ysgol.
Buddsoddi mewn caeau 3G
Dros gyfnod o sawl blwyddyn, mae'r Cyngor wedi buddsoddi mewn 17 o gaeau 3G 'pob tywydd' ledled Rhondda Cynon Taf, ac wedi cyflawni ei nod o osod un o fewn tair milltir i bob cartref. Mae'r rhain yn golygu bod modd i chwaraeon a chwarae awyr agored barhau drwy fisoedd y gaeaf, pan fydd caeau glaswellt yn gallu dirywio – gan wella iechyd a lles pobl. Dyma leoliadau'r caeau 3G:
Caeau Baglan yn Nhreherbert, Parc Pentre, Ysgol Gymuned Porth, Ysgol Gymuned Glynrhedynog, Parc y Darren yng Nglynrhedynog, Ysgol Nantgwyn yn Nhonypandy, Canolfan Hamdden Tonyrefail, Canolfan Chwaraeon Rhondda Fach yn Ystrad, Ysgol Gyfun Y Pant ym Mhont-y-clun, Garth Olwg ym Mhentre'r Eglwys, Ysgol Gyfun Bryn Celynnog yn ardal Beddau, Maritime ym Mhontypridd, Ysgol Bro Taf yng Nghilfynydd, Canolfan Chwaraeon Abercynon, Caeau Caedrawnant yn Aberpennar, Canolfan Hamdden Sobell yn Aberdâr, ac Ysgol Rhydywaun ym Mhen-y-waun.
Hefyd, mae caeau artiffisial yn Ysgol Afon Wen yn y Ddraenen-wen, Blaengwawr yn Aberaman, Ysgol Gymuned Tonyrefail ac YsgolGyfun Treorci.
Campfa a stiwdio ffitrwydd newydd: Canolfan Chwaraeon Abercynon
Canolfan Chwaraeon Abercynon yw'r cyfleuster diweddaraf sydd wedi'i glustnodi ar gyfer gwaith adnewyddu'r gampfa. Mae disgwyl i'r cynllun ddechrau ym mis Rhagfyr 2025, a bydd y gwaith yn ymwneud ag ailfodelu llawr gwaelod y ganolfan i greu campfa fwy gydag offer newydd, yn ogystal â stiwdio Droelli.
Lifft newydd: Canolfan Chwaraeon Rhondda
Bydd prosiect helaeth i ailosod y lifft yn llwyr yn y ganolfan 50 oed yma wedi'i gwblhau erbyn diwedd 2025. Drwy fuddsoddiad, mae'r Cyngor wedi llwyddo i ariannu cerbyd newydd pwrpasol a mecanweithiau cysylltiedig yn y ganolfan er mwyn sicrhau bod modd i bob cwsmer ddefnyddio'r safle.
Ystafell iechyd: Canolfan Hamdden y Ddraenen-wen
Mae'r buddsoddiad yn yr ystafell iechyd boblogaidd yng Nghanolfan Hamdden y Ddraenen-wen wedi arwain at agor sawna newydd, yn arddull y Ffindir, i sicrhau bod cwsmeriaid sy'n mwynhau mynediad i'r ystafell iechyd yn rhan o'u haelodaeth, yn parhau i elwa ar y cyfleusterau.
Byrddau trosglwyddo campfa
Mae byrddau trosglwyddo sy'n galluogi defnyddwyr cadeiriau olwyn i symud yn haws o'u cadeiriau i offer ffitrwydd campfa wedi'u prynu er mwyn cynnal ein hymrwymiad i fod yn gynhwysol.
Stiwdio ffitrwydd estynedig: Canolfan Ffitrwydd Llys Cadwyn
Rhagor o le ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd yng nghanolfan newydd Hamdden am Oes yng nghanol Pontypridd! Mae hyn yn golygu bod rhagor o le ar gyfer dosbarthiadau gan gynnwys Troelli, Barbell, Ffitrwydd i Ddechreuwyr, dosbarthiadau dwyster isel a sesiynau Sgwrsio a Hyfforddi i'r rhai sy'n magu hyder i fod yn egnïol, mynd allan o'r tŷ a chwrdd â phobl newydd.
Gwelliannau Digidol
Mae Cardiau Aelodaeth wedi'u hymgorffori yn y rhaglen Hamdden am Oes sy'n rhad ac am ddim, ac yn hawdd ei defnyddio. Mae modd i gwsmeriaid nawr bwyso botwm i gael mynediad diderfyn i'r gampfa, nofio, dosbarthiadau ffitrwydd a chwaraeon dan do yn eu canolfan ddewisol - yn ogystal â chadw lle mewn dosbarthiadau a sesiynau, gwirio amserlenni a rhagor. Dim mwy o gardiau plastig na ffobiau!
Mae sgriniau digidol wedi cael eu hychwanegu ym mhob canolfan Hamdden am Oes i alluogi cwsmeriaid i weld ar unwaith weithgareddau sydd ar gael, achlysuron arbennig a rhagor.
Dysgwch fwy am gynllun aelodaeth Leisure4Life y cyngor a sut y gallai fod o fudd i chi.