Mae Buddsoddiad mewn Mannau Chwarae yn golygu bod gan ein trigolion ieuengaf fynediad at ardaloedd hygyrch a diogel, o ansawdd uchel lle mae modd iddyn nhw a'u dychymyg ffynnu! Yn 2025/26, rydyn ni'n gwella nifer o'n safleoedd cymunedol, ac yn datblygu dau barc sglefrfyrddio ar gyfer y dyfodol, gan gyfrannu at ein buddsoddiad Trawsnewid RhCT.
 
Mae prosiectau mannau chwarae yn canolbwyntio ar ddefnyddio'r lle yn y ffordd orau bosibl, ystod o offer, ac offer chwarae sy'n ysbrydoli datblygiad a hyder drwy chwarae – mae tŵr dringo un plentyn yn dŷ chwarae plentyn arall.   
O ailwampio mannau chwarae yn llwyr i ddarparu ardaloedd gemau aml-ddefnydd a gwneud gwaith cynnal a chadw a diogelwch hanfodol, mae ein buddsoddiad mewn Mannau Chwarae yn cael ei gyflawni ledled y Fwrdeistref Sirol. 
Yn ogystal â'r gwaith sydd wedi'i gwblhau hyn yn hyn, sydd wedi'i nodi isod, mae'r garfan Buddsoddi mewn Mannau Chwarae yn cynnal gwaith ar gyfer 12 man chwarae pellach. Byddwn ni'n ychwanegu'r cynlluniau yma at y dudalen yma wrth iddyn nhw gael eu cwblhau. 
Mae'r garfan hefyd yn gweithio i ddarparu dau barc sglefrfyrddio newydd, a hynny fel prosiectau tymor hwy. 
 Coedlan Graig, Abercwmboi
Coedlan Graig, Abercwmboi 
Gosod offer newydd yn lle'r prif offer chwarae amlddefnydd, gosod rhagor o feinciau ar gyfer rhieni a gwaith diogelwch megis gosod ffensys ac wyneb newydd. 
 
 Parc Aberdâr
Parc Aberdâr 
Prosiect sy'n cynnwys tair rhan er mwyn gosod offer chwarae newydd ar gyfer plant iau, cyflwyno offer chwarae synhwyraidd ychwanegol ar gyfer y plant bach a chyflwyno offer megis campfa awyr agored ar gyfer ymwelwyr hŷn. Mae cam cyntaf gwaith gosod uned chwarae newydd i blant iau wedi'i gwblhau 
Parc Brynteg, Trealaw  
Creu ardal aml-chwaraeon ar gyfer plant lleol sydd eisiau chwarae pêl-droed, rygbi, pêl-fasged a phêl-rwyd. Mae'r wyneb hefyd yn berffaith i'r plant bach sydd eisiau defnyddio eu beiciau cydbwysedd.  
Yn ogystal ag ailgynllunio'r man chwarae presennol er mwyn defnyddio'r lle mewn ffordd well, gosod meinciau newydd ychwanegol ar gyfer rhieni a gwaith diogelwch megis gosod ffensys ac wyneb newydd. 
 Parc Fictoria, Aberpennar
Parc Fictoria, Aberpennar 
Gosod uned aml-chwarae newydd gyda llithren uchel a ffrâm ddringo.  
 
 Parc Tyn-y-bryn, Tonyrefail
Parc Tyn-y-bryn, Tonyrefail 
Gosod offer lliwgar sy'n creu sŵn ar gyfer plant iau a bydd y garfan Buddsoddi mewn Mannau Chwarae yn dychwelyd i osod siglenni newydd.  
 
 Heol Llanwern, Graig
Heol Llanwern, Graig  
Cylch troi hygyrch a siglenni newydd, yn ogystal â gwaith diogelwch cysylltiedig megis gosod ffensys ac wyneb newydd. 
 

Parc Gwernifor, Aberpennar 
Offer chwarae newydd sbon a siglenni, yn ogystal ag adnewyddu wyneb diogelwch 
 
 Parc Pentre, Pentre
Parc Pentre, Pentre 
Offer chwarae i blant iau, gan gynnwys gorsaf betrol gyda phympiau i geir tegan, a chwpan droelli, yn ogystal â si-so newydd sy'n troi ar gyfer plant hŷn ac adnewyddu'r wyneb diogelwch.  
 
Henllys, Trebanog 
Gwaith ailwampio'r man chwarae yn llwyr gydag uned newydd â phedair siglen (seddi gwastad a seddi crud) yn ogystal â sedd fasged, cylch troi hygyrch a ffrâm neidio lan a lawr. 
Ardal Gemau Aml-ddefnydd yr Ynys, Aberdâr 
Marciau newydd er mwyn i'r man mynediad agored gael ei ddefnyddio gan bobl ifainc lleol ar gyfer ystod o chwaraeon a gemau awyr agored. 
 Ardal Gemau Aml-ddefnydd Parc Treherbert, Treorci
Ardal Gemau Aml-ddefnydd Parc Treherbert, Treorci 
Marciau newydd er mwyn i'r man mynediad agored gael ei ddefnyddio gan bobl ifainc lleol ar gyfer ystod o chwaraeon a gemau awyr agored. 
 
Y Llwybr Beicio, Glynrhedynog 
Cafodd y llwybr beicio cyffrous yma ei greu ar gyfer pobl leol sy'n hoff iawn o feicio, a hynny'n rhan o Lwybr Teithio Llesol sylweddol Cwm Rhondda Fach, yn brosiect i'r gymuned gan y contractwyr. 
Mae'r safle bellach wedi cael ei drosglwyddo i'r Garfan Buddsoddi mewn Mannau Chwarae i'w reoli. 
A wyddoch chi? Rydyn ni wedi buddsoddi mewn 17 o gaeau chwaraeon 3G 'pob tywydd' ledled Rhondda Cynon Taf – ac mae un wedi'i leoli o fewn tair milltir i bob cartref yn y Fwrdeistref Sirol!