Skip to main content

Canol Tref Tonypandy

 
Cynllun adfywio Canol Tref Tonypandy yw cynllun gwerth £1.5 miliwn i dyfu economi prif ardal fanwerthu Tonypandy. Calon yr ardal yw Dunraven Street.

Bydd amrediad o wasanaethau'r Cyngor yn cydlynu'r cynllun cynhwysol er mwyn gwella gweithgarwch economaidd yn y dref. Mae'r gwasanaethau Cymorth i Fusnesau, Adfywio, y Priffyrdd a Thrafnidiaeth yn gweithio gyda'i gilydd i adfywio'r dref.

Er mwyn paratoi ar gyfer troi Dunraven Street o fod yn ardal i gerddwyr yn unig, mae'r Cyngor yn cefnogi busnesau lleol i wella blaenau'u heiddo, diolch i Grant Cynnal a Chadw Canol y Dref. Mae'r grant yn rhoi hyd at £1,000 i fusnesau er mwyn gwella blaenau'u heiddo, gyda'r nod o wneud canol y dref yn lle mwy deniadol.

Mae'r Cyngor eisoes wedi cyflwyno parcio am ddim yn Nhonypandy, sy wedi annog rhagor o bobl i alw heibio i'r dref dros y 12 mis diwethaf.

Mae'r cynigion ar gyfer y cynllun adfywio yn cynnwys:

  • Caniatáu mynediad unwaith eto i gerbydau i'r stryd. Byddai hyn yn caniatáu i draffig lifo unffordd tua'r gogledd
  • Troedffyrdd uwch er mwyn creu amgylchedd mwy diogel i gerddwyr
  • Gwella celfi stryd
  • Cilfannau parcio a llwytho 
  • Safle bws newydd
  • Grantiau i fusnesau wella blaenau'u heiddo

Gweld cynlluniau canol tref Tonypandy 1

Gweld cynlluniau canol tref Tonypandy 2 

Meysydd gwella:

Tonypandy1
Tonypandy 2
Tonypandy3
Tonypandy34
Tonypandy5