Ymunwch â ni ar gyfer Haf o Hwyl Chwaraeon RhCT 2026. Eleni byddwn ni'n cynnal y rhaglen am bedair wythnos, rhwng 27 Gorffennaf a 21 Awst. Bwriwch olwg ar yr amserlen isod ac e-bostiwch ni ar Chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk os oes gyda chi gwestiynau.
"Sports Tots" (2–5 oed)
- Bob Dydd Mawrth 10.30am–11.15am yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Ystrad (28 Gorffennaf–18 Awst)
- Bob Dydd Mercher 10.30am–11.15am yng Nghanolfan Hamdden Sobell, Aberdâr (29 Gorffennaf–19 Awst)
- Bob Dydd Iau 10.30am–11.15am yn Ysgol Gyfun Y Pant, Pont-y-clun (30 Gorffennaf–20 Awst)
Beiciau Cydbwysedd (2–5 oed)
- Bob Dydd Mawrth 11.30am–12.15pm yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Ystrad (28 Gorffennaf–18 Awst)
- Bob Dydd Mercher 11.30am–12.15pm yng Nghanolfan Hamdden Sobell, Aberdâr (29 Gorffennaf–19 Awst)
- Bob Dydd Iau 11.30am–12.15pm yn Ysgol Gyfun Y Pant, Pont-y-clun (30 Gorffennaf–20 Awst)
Aml-chwaraeon (6–12 oed)
- Bob Dydd Mawrth 12.30pm–2.30pm yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda, Ystrad (28 Gorffennaf–18 Awst)
- Bob Dydd Mercher 12.30pm–2.30pm yng Nghanolfan Hamdden Sobell, Aberdâr (29 Gorffennaf–19 Awst)
- Bob Dydd Iau 12.30pm–2.30pm yn Ysgol Gyfun Y Pant, Pont-y-clun (30 Gorffennaf–20 Awst)
Aml-chwaraeon i Blant Anabl (3–19 oed)
- Bob Dydd Llun 1pm–2pm yng Nghanolfan Hamdden Sobell (27 Gorffennaf–17 Awst)
Chwaraeon i Deuluoedd (2–12 oed)
- Dydd Llun 10am–11am ym Mharc Treherbert, Treherbert (27 Gorffennaf)
- Dydd Llun 10am–11am yng Nghlwb Rygbi Glyn-coch, Glyn-coch (3 Awst)
- Dydd Llun 10am–11am yng Nghanolfan y Gymuned Pen-y-waun, Pen-y-waun (10 Awst)
- Dydd Llun 10am–11am yng Nghanolfan Hamdden Rhondda Fach, Tylorstown (17 Awst)
Gwersyll Hoci (6–11 oed)
- Dydd Mercher 10am–1pm yn Ysgol Afon Wen, y Ddraenen Wen (19 Awst)
Sesiynau YEPS (11 oed ac yn hŷn)
- Mynediad Agored: Dydd Mercher 4.30pm–7pm ar Gae 3G Parc y Darren (22 Gorffennaf, 5 Awst, 26 Awst)
- Mynediad Agored: Dydd Iau 1pm–3pm ar Gae 3G Canolfan Hamdden Sobell (23 Gorffennaf, 6–27 Awst)
- Mynediad Agored: Dydd Iau 1pm–3pm ar Gaeau 3G Canolfan Hamdden Tonyrefail ac Ysgol Afon Wen (13 Awst)
- Pêl-droed YEPS: Bob Dydd Mawrth 5.30pm–8pm ar Gae 3G Baglan (21 Gorffennaf–25 Awst)
- Darpariaeth Symudol i Bobl Ifainc: Dydd Mercher 1pm–3pm (29 Gorffennaf ac 19 Awst)
Os oes gyda chi gwestiynau neu ymholiadau ynghylch cadw lle, e-bostiwch ChwaraeonRhCT@rctcbc.gov.uk