Skip to main content
 

Ein gwaith

Ein bwriad yw annog rhagor o bobl i fod yn fwy heini, yn fwy rheolaidd Er mwyn cyflawni hyn rydym yn gweithio gyda phartneriaid amrywiol fel ysgolion, clybiau chwaraeon, busnesau a chyrff llywodraethu cenedlaethol. 

 

Dyma rai o'r prosiectau yr ydym wedi'u darparu'n ddiweddar ar draws Rhondda Cynon Taf.

 

Clybiau Chwaraeon

Rhan fawr o'n gwaith yw datblygu clybiau chwaraeon ar draws Rhondda Cynon Taf. Mae hyn yn cynnwys datblygu'r gweithlu, eu helpu nhw i wneud cais am gyllid a'u cynorthwyo â gwaith hyrwyddo. Rydyn ni'n anelu at ddatblygu capasiti ein clybiau chwaraeon fel bod modd iddyn nhw gael rhagor o bobl yn fwy gweithgar. Rydyn ni'n defnyddio 'clybiau chwaraeon' mewn modd cyffredinol iawn, ac mae'r term yn cynnwys yr holl grwpiau cymunedol sy'n darparu cyfleoedd chwaraeon a/neu weithgarwch corfforol. 

Ydych chi'n glwb neu sefydliad cymunedol sy'n chwilio am gymorth? Dewch i ymuno gyda'n cynllun aelodaeth clwb a gofyn am gymorth yma.

Ysgolion

Elfen arall o'n gwaith yw cefnogi ysgolion. Rydyn ni'n helpu i hyfforddi staff, mentora arweinwyr ifainc, datblygu cyfleoedd newydd ac rydyn ni'n cynnal ystod o wyliau a chystadlaethau. Rydyn ni'n falch o gefnogi ysgolion gyda phrosiectau sy'n galluogi rhagor o blant i fod yn weithgar yn aml.

 

Ydych chi'n ysgol sy'n chwilio am gymorth? Cwblhewch ein ffurflen gais am wasanaethau ysgol yma.

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas