Mehefin 20
Mae'r 'Rhondda Miners' yn chwilio am aelodau NAWR ar gyfer tymor 2019/2020
Os ydych chi'n ystyried ymuno ar gyfer y tymor nesaf, ac rydych chi ym mlynyddoedd ysgol 8-13, dewch i Barc Wattstown bob dydd Mercher am 6pm ar gyfer ffitrwydd a hwyl. Mae ganddyn nhw hyfforddwyr cymwys lefel 1 a 2 a gweithwyr cymorth cyntaf cymwys. Mae pob un wedi'i wiro gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae croeso i bobl o bob gallu, a does dim angen profiad arnoch chi.
Mehefin 14
Achlysur y gyfres 'insport' YFORY yn Abercynon! Gweithgareddau cynhwysol ar gyfer pob oedran - rhagor o fanylion ar y daflen
Mehefin 13
Cynon Valley Cavaliers - Clwb rygbi cynghrair newydd sydd wedi'i leoli yn Hirwaun! Maen nhw'n chwilio am chwaraewyr ar gyfer eu timau Dan 12 a Dan 14 oed. Darllenwch y daflen wybodaeth am ragor o wybodaeth!
Mehefin 8
Gyda'r Hwyr yn y Parc - grŵp rhedeg cyfeillgar ym Mhontypridd, sy'n addas ar gyfer pobl o bob gallu. Gweler y daflen am fanylion pellach!
Mehefin 3
Ydych chi wedi gweld gwedd newydd gwefan Atebion Clwb? Mae @clubsolutionswales yn declyn ac adnodd arbennig ar gyfer clybiau chwaraeon a gwirfoddolwyr! Dysgwch ragor yma: http://www.atebionclwb.cymru
Mehefin 2
Llongyfarchiadau Jason Cook o Glwb Rygbi Mini ac Iau Ystrad Cwm Rhondda! - chi yw ein Gwirfoddolwr y Mis!
Jason yw hyfforddwr Dan 11 oed y clwb ar hyn o bryd, ond mae ei rôl yn y clwb yn fwy na hyfforddwr yn unig. Mae Jason wedi rhoi ei fywyd i rygbi ac mae'n angerddol iawn dros ei glwb a'r gamp. Mae'n gweithio'n galed y tu ôl i'r llen er mwyn datblygu'r clwb, gan dreulio'i amser yn trefnu achlysuron codi arian, dod o hyd i noddwyr a threfnu amserlen hyfforddi a gemau. Mae'n gwneud hyn oll wrth weithio a chynnal ei fywyd teulu ac mae'r clwb yn ddiolchgar iawn am ei ymroddiad.
Da iawn #WythnosGwirfoddolwyr
Mehefin 1
Mae heddiw yn nodi dechrau Wythnos Genedlaethol Gwirfoddolwyr. Dyma 20 rheswm i gymryd rhan! Cofrestrwch gyda ni a byddwn ni'n paratoi cyfle gwirfoddoli a'r cymorth a hyfforddi sydd eu hangen arnoch. Cofrestrwch ar www.rctcbc.gov.uk/ByddwchYnWirfoddolwrArRanChwaraeonRhCT #WythnosGwirfoddolwyr
Mai 23
Mai yw mis Cerdded Cenedlaethol. Mae gyda ni rai llwybrau cerdded hardd yn Rhondda Cynon Taf ac mae nifer o fanteision i'ch iechyd. Dyma 20 rheswm pam dylech chi gerdded mwy. Ewch i'n gwefan i ddod o hyd i'ch llwybrau lleol: www.rctcbc.gov.uk/chwaraeonrhctcerdded
Mai 21
Ydych chi eisiau dechrau rhedeg? Ydych chi'n byw yng Nghwm Rhondda? Darllenwch am grwpiau Fast Daps Glynrhedynog a'r Maerdy a Fast Daps Treorci! Sesiynau Cerdded i Redeg sy'n berffaith i ddechreuwyr.
Mai 20
Yr wythnos yma yw wythnos Cerdded i'r Ysgol. Ydych chi a'ch plant yn cymryd rhan? Dyma 20 rheswm pam mae cerdded yn fwy aml yn fuddiol.
Mai 17
Mae Clwb Pêl-droed Merched Llwydcoed yn chwilio am chwaraewyr newydd!! Rhagor o fanylion isod!
Mai 13
Yr wythnos yma yw Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. A wyddoch chi fod gan weithgarwch corfforol fanteision gwych ar gyfer eich iechyd meddwl? Dyma 10 rheswm gwych i fod yn heini a 5 awgrym ar sut i ddechrau. Cysylltwch â ni am gymorth neu gyngor.
Mai 12
A oes angen gwirfoddolwyr newydd ar eich clwb chwaraeon chi?
A hoffech chi i ni hysbysebu eich cyfleoedd i'n gwirfoddolwyr Chwaraeon RhCT?
Cwblhewch ein ffurflen recriwtio gwirfoddolwyr yma: www.rctcbc.gov.uk/RecriwtioGwirfoddolwyr
Mai 9
Wyddoch chi fod Cwm Cycling yn Aberdâr yn cynnig opsiwn i logi beiciau mewn amgylchedd beicio diogel. Gweler y manylion llawn ar y daflen!
Mai 8
Mae ein sesiwn Pêl-droed Cerdded yn dechrau heno yn Abercynon. Dewch yn llu i roi cynnig arni! Gweler y manylion llawn ar y daflen.
Mai 3
Mae'n bryd cyhoeddi Gwirfoddolwr y Mis ar gyfer mis Ebrill...
Llongyfarchiadau Ellie Jones!
Ellie yw hyfforddwr tîm iau'r Rhondda Rockets. Ddwy flynedd yn ôl roedd y clwb Codi Hwyl eisiau creu tîm newydd ar gyfer plant 3-6 oed ac roedd angen hyfforddwr! Gwirfoddolodd Ellie ac mae hi wedi bod yn hyfforddi'r plant ers hynny. Mae pob un o'r plant wrth eu bodd â hi ac mae wedi datblygu i fod yn hyfforddwr anhygoel! Mae hi bob amser yn brysur, yn cynnal sesiynau hyfforddi, cystadlu mewn achlysuron Codi Hwyl ei hun a gweithio llawn amser. Da iawn Ellie!
Mai 1
Neithiwr gwobrwyodd Cist Gymunedol Datblygu Chwaraeon Cymru £15,660 i glybiau chwaraeon 13 o Rondda Cynon Taf. Llongyfarchiadau i'r holl ymgeiswyr llwyddiannus!
Ebrill 29
Rydyn ni'n recriwtio hyfforddwyr chwaraeon newydd! Os hoffech chi ymuno â'n tîm ni, anfonwch eich CV chi atom ni ar Chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk
Ebrill 27
Mae'r gwyliau'n dod i ben. Os ydy'ch plentyn wedi cwblhau'i Gerdyn Bingo'r Pasg, cofiwch am ein raffl. Anfonwch lun mewn ebost neu drwy'r cyfryngau cymdeithasol gyda'r tag @Sportrct
Ebrill 24
Gweithdai Hyfforddi AM DDIM – Cynnal Chwaraeon i Blant Bach a Chynnal Chwaraeon i Blant Iau
Mae'n berffaith i unrhyw un sy'n cynnal gweithgareddau chwaraeon i blant o dan 11 oed.
Dysgwch syniadau a chwaraeon newydd.
2 Ebrill a 9 Ebrill 6.00-9.00pm yn Ysgol Gymuned Abercynon
E-bost chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk
Ebrill 23
Sesiynau Wicketz NEWYDD yn dechrau yn Abercynon ar 1 Mai.
Sesiynau criced hwyl i bobl ifainc 11-16 oed.
Darllenwch y manylion llawn ar y daflen
Ebrill 19
Diwrnod Agored Clwb Bowls Athletaidd Pont-y-clun i Ddynion a Menywod
Dydd Sul 28 Ebrill
Gweler y manylion llawn ar y daflen
Ebrill 10
Chwaraeodd pum chwaraewr o Glwb Bowls Dan Do Iau Cwm Rhondda yn y twrnamaint a gafodd ei gynnal gan Gymdeithas Bowls Dan Do Cymru. Cafodd y twrnamaint ei gynnal ym Mhort Talbot, a chymerodd 5 tîm ran. Yr enillwyr oedd Dylan Hawkins, Tegan Rees, Lauren Gowen, Estee Parry ac Emily Lawrence. Llongyfarchiadau!
Ebrill 9
Mae'n hen bryd i ni gyhoeddi Gwirfoddolwr y Mis ar gyfer mis Mawrth... Llongyfarchiadau i Barrie Rees – Sylfaenydd a Phrif Sensai Carate Shotokan Wattstown! Mae Barrie wastad wedi ymddiddori mewn carate, ac yn 2011 penderfynodd sefydlu ei glwb ei hun. Mae dros 50 o aelodau, ac mae rhai mor ifanc â 4 oed. Mae'r clwb yn teithio i Bencampwriaethau Ewrop a'r Byd bob blwyddyn, a daeth y clwb yn ôl o daith i Falta yn ddiweddar gyda 2 wobr Aur Ewropeaidd. Mae Barrie yn gweithio 6 diwrnod yr wythnos ac mae gyda fe fywyd teuluol prysur, ond mae fe'n ymrwymo i'w glwb a chwaraeon ac mae'n frwdfrydig amdanyn nhw. Mae fe'n ysbrydoliaeth i'w fyfyrwyr ac mae'n haeddu'r gydnabyddiaeth yma. Da iawn Barrie!
Ebrill 8
Sesiynau Chwarae Pêl-droed i blant dan 7 oed
Yn dechrau yn fuan yn Aberdâr ac Abercynon
Manylion llawn isod
Ebrill 3
Mae manteision o wneud gweithgareddau corfforol a chwaraeon. Gofynnodd Canolfan Gymuned Ton-teg i ni fynd i'r afael ag unigrwydd cymdeithasol yn yr ardal. Rhoeson ni gymorth iddyn nhw ddechrau sesiynau bowlio dan do. Edrychwch ar y ffilm.
Ebrill 1
Ebrill yw mis Ymwybyddiaeth Straen. A wyddoch chi fod gan weithgarwch corfforol fanteision gwych ar gyfer eich iechyd meddwl? Dyma 10 rheswm gwych i fod yn heini a 5 awgrym ar sut i ddechrau. Cysylltwch â ni am gymorth neu gyngor.
Mawrth 31
Sul y Mamau Hapus! Diolch i bob un o'r mamau sy'n gwneud i chwaraeon ddigwydd trwy gefnogi eu plant a rhoi o'u hamser. Tagiwch fam sy'n gwneud i chwaraeon ddigwydd yn RhCT.
Mawrth 27
Llongyfarchiadau i Scarlett o Glwb Karate Kyokushin Pontypridd a enillodd Fedal Efydd yn ddiweddar yng nghategori Karate Kata Anabledd Pencampwriaethau Cymru WKGB. Mae Scarlett yn dilyn ôl troed Darlene, aelod arall o'r clwb sydd wedi ennill Medal Arian ym Mhencampwriaethau Karate Anabledd y Byd ac Ewrop. Bydd Darlene yn teithio yr wythnos nesaf i Sbaen ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop eleni. Pob lwc Darlene!!
Mawrth 27
Daeth 20 o glybiau chwaraeon i'n sesiwn Datblygu Clybiau galw heibio heddiw. Mae ein carfan yn rhoi cymorth i unrhyw glybiau a sefydliadau sy'n awyddus i ddatblygu – os ydy'ch clwb eisiau cymorth, cofiwch gysylltu neu gadw lle ar ein sesiwn Datblygu Clybiau galw heibio nesaf ym mis Mai!
Mawrth 21
Gweithdai Hyfforddi AM DDIM – Cynnal Chwaraeon i Blant Bach a Chynnal Chwaraeon i Blant Iau
Mae'n berffaith i unrhyw un sy'n cynnal gweithgareddau chwaraeon i blant o dan 11 oed. Dysgwch syniadau a chwaraeon newydd.
2 Ebrill a 9 Ebrill 6.00-9.00pm yn Ysgol Gymuned Abercynon
Ewch i www.rctcbc.gov.uk/calendrhyfforddirgweithlu i gadw lle
Mawrth 18
Ydy eich clwb chwaraeon yn chwilio am gymorth? Mae modd i ni ddarparu cymorth gyda threfniadau llywodraethu, cyllid, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr, cysylltiadau â'r gymuned a hyrwyddo'ch clwb. Oes diddordeb gyda chi? Dewch i un o'n sesiynau Datblygu Clybiau galw heibio ar 27 Mawrth rhwng 1pm a 8pm yng Nghanolfan Hamdden Sobell, Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen neu'r Play Yard. Cadwch le nawr ar www.rctcbc.gov.uk/calendrhyfforddirgweithlu
Mawrth 15
Y penwythnos olaf... Cymru yn erbyn Iwerddon!
Mae'r tîm dan 20 yn chwarae heno am 7.05pm.
Bydd tîm y dynion yn chwarae am 2.45pm yfory.
Bydd cic gyntaf gêm y Menywod am 1.30pm, ddydd Sul.
Rydyn ni'n falch iawn o'r holl chwaraewyr o RCT.
#CymruAmByth
Mawrth 13
Yn ystod yr haf y flwyddyn ddiwethaf, aethon ni i gwrdd ag aelodau clwb tennis Llantrisant. Dyma fideo sy'n dangos sesiynau Tennis i Blant a Thennis Cardio y clwb. Mae gan y clwb lwyth o sesiynau i bobl o bob oed a gallu. Am ragor o wybodaeth, dilynwch y clwb ar y cyfryngau cymdeithasol neu fynd i https://clubspark.lta.org.uk/Llantrisanttennis
Mawrth 11
Mae Chwaraeon Cymru yn cynnig grant Cist Gymunedol o hyd at £1500 i glybiau chwaraeon cymunedol a sefydliadau sy'n chwilio am ragor o aelodau ac/neu sydd eisiau gwella safonau. Mae'r ffeithlun yma yn dangos buddsoddiad y Gist Gymunedol yn Rhondda Cynon Taf dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mawrth 8
Heddiw rydyn ni'n dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Gwyliwch y ffilm astudiaeth achos yma i ddysgu am glwb Pêl-rwyd Cerdded Llanilltud Faerdref. Maen nhw o'r farn na ddylech chi byth ofni rhoi cynnig ar rywbeth newydd, beth bynnag fo'ch oedran. Mae stori'r clwb yn enghraifft berffaith o sut mae modd i chwaraeon eich helpu chi'n gorfforol ac yn feddyliol.
Mawrth 8
Rownd pedwar - Yr Alban
Mae'r tîm dan 20 yn chwarae heno am 7.30pm.
Bydd tîm y menywod yn chwarae heno am 7.35pm.
Bydd cic gyntaf gêm y dynion am 2.15pm yfory.
Cefnogwch y tri thîm a'r holl chwaraewyr o RCT.
#CymruAmByth
Mawrth 6
Mae'n amser i gyhoeddi Gwirfoddolwr y Mis ar gyfer mis Chwefror...
Llongyfarchiadau Glyn Harries!
Mae Glyn wedi bod yn hyfforddwr gyda Chlwb Nofio Cwm Rhondda ers sefydlu'r clwb yn 1975. Fe oedd un o'r aelodau a sefydlodd y clwb. Mae Glyn bellach yn 83 oed ac mae wrth ei fodd yn helpu plant i wella eu sgiliau nofio. Mae Glyn wrth y pwll bob nos Wener ar gyfer hyfforddiant ac er ei fod yn dasgfeistr, mae'r plant i gyd yn dwlu ar ei sesiynau ac yn parchu ei wybodaeth a phrofiad. Mae Glyn hefyd yn hyfforddi gyda chlwb nofio i'r anabl Rhondda Polar Bears, dydy e byth yn colli gala nofio. Ar ôl dros 40 o flynyddoedd yn gwirfoddoli ac yn rhoi cymaint o'i amser i'r clwb ac i'w gymuned, rydyn ni o'r farn ei fod yn haeddu clod. Da iawn Glyn.
Mawrth 5
Dewch i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched gyda ni y penwythnos yma. Cymerwch ran mewn sesiynau Ioga, Pêl-rwyd Cerdded, Hoci Cerdded, Pickleball a Cherdded.
Mawrth 1
Dydd Gŵyl Dewi Hapus! Rydyn ni'n teimlo'n wladgarol iawn wrth siarad am ein hoff atgofion chwaraeon o Gymru. Pa atgofion chwaraeon sy wedi gwneud i chi deimlo'n hynod o falch? Gadewch sylw isod.
Chwefror 24
Mae ein map cyfleusterau'r gymuned yn cynnwys canolfannau hamdden, canolfannau cymuned, parciau ac ardaloedd chwarae. Dyma'r lleoedd delfrydol i chi a'ch teulu fod yn weithredol. Ewch i'n gwefan i gael cip arno! www.rctcbc.gov.uk/communitysportfacilities
Chwefror 22
Rownd tri - Lloegr
Mae'r tîm dan 20 yn chwarae heno am 7.05pm.
Bydd tîm y dynion yn chwarae yfory am 4.45pm
Bydd cic gyntaf gêm y menywod am 12.30pm, ddydd Sul.
Pob lwc i bob tîm a'r holl chwaraewyr o RCT.
#CymruAmByth #WALvENG
Chwefror 18
Yr wythnos yma yw Wythnos Gwirfoddoli Ymhlith Myfyrwyr. Mae gyda ni bartneriaethau gwych gyda Phrifysgol De Cymru, Coleg y Cymoedd ac Academi Chwaraeon MPCT. Diolch i'r nifer fawr o fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli ar ein rhan trwy gydol y flwyddyn sy'n cynorthwyo gyda phrosiectau ac achlysuron.
Chwefror 17
Chwilio am gwrs Cymorth Cyntaf Chwaraeon? Rydyn ni'n cynnal cwrs yn fuan – dyma'r manylion:
Dydd Mercher 6 Mawrth 6.00-9.00pm yng Nghanolfan Chwaraeon Abercynon
Pris: £25 fesul person
Ewch i www.rctcbc.gov.uk/calendrhyfforddirgweithlu i gadw lle
Chwefror 11
Ydych chi'n chwilio am her?
Beth am roi cynnig ar Aquathlon RhCT?
Mae her GO TRI yn berffaith ar gyfer dechreuwyr...
Cymerwch olwg ar y poster am ragor o fanylion.
Chwefror 8
Rownd dau - Yr Eidal
Bydd tîm y dynion yn chwarae yfory am 4.45pm.
Bydd y menywod yn chwarae nos yfory am 7pm.
Bydd cic gyntaf gêm y tîm dan 20 am 2pm, ddydd Sul.
Dymunwch bob hwyl i unrhyw chwaraewyr o'ch ardal chi isod!
#CymruAmByth
Chwefror 6
Pwy yw enillydd Gwirfoddolwr y Mis, Mis Ionawr?
Llongyfarchiadau Ruth Cochran!
Mae Ruth yn rhoi o'i hamser bob bore Sadwrn i gefnogi achlysur @pontypriddparkrun. Mae hi wedi gwirfoddoli mewn dros 200 o achlysuron. Mae Ruth yn cyrraedd yn gynnar i wirio'r llwybr a helpu gyda gwaith paratoi ar gyfer yr achlysur, yna mae hi'n cyflawni rôl 'tailwalker'. O bryd i'w gilydd, mae'r rheiny sy'n cerdded llwybr Parkrun yn teimlo'n hunanymwybodol. Mae nifer o bobl yn dychwelyd wythnos ar ôl wythnos er mwyn colli pwysau a theimlo'n well, ac mae rhai yn mynd ymlaen i gyflawni'r llwybr 5 cilometr cyfan.
Chwefror 1
Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi dychwelyd!
Ffrainc sy'n chwarae yn erbyn Cymru yn gyntaf.
Ac mae gyda ni benwythnos llawn dop.
Mae'r uwch garfan (dynion) yn chwarae heno am 8.00pm.
Mae'r menywod yn chwarae nos yfory am 8.00pm.
Ac mae'r tîm dan 20 oed yn chwarae am 2.00pm ddydd Sul.
Rydyn ni'n falch o ddweud bod nifer o'r chwaraewyr wedi'u dewis yn dod o RCT.
#CymruAmByth
Ionawr 30
Ydych chi'n ystyried gwirfoddoli mewn chwaraeon? Dyma 20 rheswm i gymryd rhan! Cofrestrwch gyda ni a byddwn ni'n paratoi cyfle gwirfoddoli a'r cymorth a hyfforddi sydd eu hangen arnoch. Cofrestrwch ar www.rctcbc.gov.uk/ByddwchYnWirfoddolwrArRanChwaraeonRhCT
Ionawr 29
Heno, mae gyda ni ein panel Cist Gymunedol 2018-19 olaf. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd mis Ebrill. Fyddai eich clwb chwaraeon yn elwa ar grant o £1500 i gefnogi twf a datblygiad? Ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/SportsandLeisure/SportRCT/SportsClubs/GrantsandFunding/SportWalesCommunityChestGrant.aspx i ddarllen mwy.
Ionawr 23
Ydych chi wedi mynd i'n cyrsiau neu weithdai Chwaraewch Ran? Hoffech chi fynd yn y dyfodol? Rydyn ni'n datblygu ein calendr newydd ac rydyn ni angen eich help!! Cwblhewch yr arolwg erbyn canol dydd 10 Chwefror a byddwch chi'n cael cyfle i ennill gwobr! https://www.snapsurveys.com/wh/s.asp?k=154780802256
Ionawr 19
Llongyfarchiadau i glwb Triathlon y Rhondda am flwyddyn anhygoel! Ar sail eu pwyntiau 'Ironman', nhw yw'r ail glwb gorau yn y DU a'r 28ain clwb gorau yn y BYD. Mae clybiau'n cael pwyntiau bob tro bydd aelod yn cymryd rhan mewn achlysur 'Ironman'. Maen nhw'n cael pwyntiau ychwanegol yn seiliedig ar safleoedd gorffen. Dyma ganlyniad gwych ac rydyn ni'n falch iawn ohonyn nhw.
Ionawr 18
Rydyn ni'n recriwtio Gwirfoddolwyr Chwaraeon RhCT i helpu gyda nifer o brosiectau rhedeg. Oes gyda chi gymhwyster 'Run Leader'? Neu ydych chi'n frwd dros redeg ac yn awyddus i gymryd rhan? Os felly, ewch i www.rctcbc.gov.uk/ByddwchYnWirfoddolwr i gofrestru
Ionawr 16
Mae yna lwybrau cerdded a beicio prydferth yma yn Rhondda Cynon Taf. Os yw'ch teulu chi yn awyddus i fod allan yn yr awyr iach dros y penwythnos, ewch i'n gwefan i weld eich llwybrau lleol - www.rctcbc.gov.uk/chwaraeonrhctcerdded
Ionawr 14
Mae'n bryd i gyhoeddi Gwirfoddolwr y Mis…Llongyfarchiadau i Christine Protheroe, Rhondda Rockets Cheerleading! Mae Christine wedi gwirfoddoli i fod yn hyfforddwrwaig gyda'r grwp ers 16 o flynyddoedd. Mae hi'n hyfforddi merched 3 gwaith yr wythnos ynghyd â dal swydd amser llawn. Mae hi'n mynd i'r ail filltir i gefnogi'r merched, gan roi cymorth iddyn nhw deithio o gwmpas y Sir ar gyfer cystadlaethau. Mae Chris yn darparu amgylchfyd cefnogol sy'n rhoi modd i'r merched fagu hyder a meithrin gallu, a chwrdd â ffrindiau newydd. Da iawn Christine!
Ionawr 11
Ydych chi wedi gweld pob astudiaeth achos ein clybiau? Mae gyda ni dros 20 o ffilmiau astudiaeth achos sy'n hyrwyddo clybiau ledled RhCT. Ewch i'w gwylio trwy fynd i'n fideos ar Facebook neu ein gwefan: https://www.rctcbc.gov.uk/EN/Resident/SportsandLeisure/SportRCT/SportsClubs/CaseStudyFilms/CaseStudyFilms.aspx
Ionawr 9
Dechreuodd ein grŵp O'r Soffa i 5k heno ym Mhontypridd, mewn partneriaeth â Hapi a Chymdeithas Tai Newydd. Aeth y sesiwn yn dda iawn a daeth dros 180 o bobl i'r sesiwn. Os colloch chi'r sesiwn heno ond rydych chi'n awyddus i ymuno – dewch i'r parc nos Fercher nesaf am 6.00pm!
Ionawr 7
Sesiynau chwaraeon ym Mharc Chwaraeon Prifysgol De Cymru!
3–6 oed
PÊL-RWYD I BLANTOS BACH: Bob dydd Mawrth 4-5pm
RYGBI I BLANTOS BACH: Bob dydd Iau 4-5pm
Ionawr 5
Ydy'ch Clwb Chwaraeon chi yn bwriadu gwneud cais am grant Cist Gymunedol Datblygu Chwaraeon Cymru? Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau yw 15 Ionawr. Byddwn ni'n cynnal sesiwn galw heibio ar 8 Ionawr yng Nghanolfan Chwaraeon Abercynon. E-bostiwch Chwaraeonrhct@rhondda-cynon-taf.gov.uk er mwyn trefnu apwyntiad un awr.
Ionawr 3
Ydych chi wedi ymuno ag unrhyw deithiau cerdded yn rhan o 'Festival of Winter Walks Ramblers Cymru? Mae yna nifer o deithiau anhygoel dros y Nadolig - a dydy e ddim yn rhy hwyr i gymryd rhan. Mae'r ŵyl yn para tan 6 Ionawr! Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.ramblers.org.uk/go-walking/festival-of-winter-walks.aspx
Ionawr 1
Blwyddyn Newydd Dda oddi wrth Chwaraeon RhCT! Croesi bysedd bydd 2019 yn llawn chwaraeon ac ymarfer corff!! Beth yw eich Addunedau Blwyddyn Newydd? Hoffech chi wneud rhagor o chwaraeon neu weithgareddau ymarfer corff?