Mae'r fenter Cerdyn Aur yn cefnogi athletwyr rhyngwladol, gan gynnig mynediad am ddim i'n cyfleusterau i'w helpu nhw i hyfforddi. Mae'r cerdyn yn ddilus am flwyddyn o'r dyddiad y cân nhw eu dewis i gynrychioli'u gwlad yn rhyngwladol ac mae dim ond ar gael i drigolion Rhondda Cynon Taf.
Os ydych chi'n gymwys ar gyfer Cerdyn Aur, bydd hawl gyda chi i ddefnyddio'r canlynol am ddim:
- Cyfleusterau chwaraeon penodol
- Mae'n bosibl y bydd cyfleusterau eraill ar gael i ddeiliad Cerdyn Aur, gan ddibynnu ar ba gamp maen nhw'n cynrychioli'u gwlad ynddi ac yn sgil trafod â rheolwyr y ganolfan.
- Ystafelloedd newid a chawodydd
Llenwch y ffurflen hon Ffurflen Gais Cerdyn Aur a'i hanfon mewn neges e-bost i AelodaethHamdden@rctcbc.gov.uk.