Mae yna amrywiaeth eang o glybiau a chyfleusterau chwaraeon i bob oedran a gallu ac at ddant pawb yn Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni wedi paratoi tri map i godi ymwybyddiaeth o'r hyn sydd ar gael yn lleol.
Map Clybiau Chwaraeon
Mae dros 300 o glybiau chwaraeon yn Rhondda Cynon Taf sy'n darparu amrywiaeth eang o chwaraeon i blant ac oedolion. Ar hyn o bryd mae gyda ni dros 100 o glybiau ar ein map. Cliciwch yma i weld y map.
Map Llwybrau Cerdded a Beicio
Rydyn ni'n ddigon ffodus bod gyda ni nifer o lwybrau cerdded a beicio hardd yn Rhondda Cynon Taf. Rydyn ni wedi rhoi llwybrau rhwydwaith beicio Sustrans ar fap, ac mae modd i chi weld y map yma.
Map Cyfleusterau Cymunedau
Mae chwaraeon a gweithgareddau corfforol yn cael eu cynnal mewn nifer o leoliadau. Rydyn ni wedi rhoi canolfannau hamdden, canolfannau cymuned, parciau ac ardaloedd chwarae Rhondda Cynon Taf ar fap. Mae modd i chi weld y map yma.