Skip to main content
 

Camau i Famau

Mae cynllun 'Camau i Famau' wedi'i ddatblygu gan Chwaraeon RhCT a Hamdden am Oes i helpu menywod sy'n dymuno cadw'n heini yn ystod eu beichiogrwydd ac ar ôl rhoi genedigaeth. 

Mae yna ystod o sesiynau ymarfer corff cyn ac ar ôl geni ar gael yn holl ganolfannau hamdden Rhondda Cynon Taf, wedi'u darparu gan weithwyr ymarfer corff proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi'n llawn. 

Dosbarthiadau Dan Do

Canolfan Hamdden Sobell, CF44 7RP (cliciwch yma am y daflen)

Dydd Mawrth

11.15am - 12.00pm: Ioga yn y dŵr (Yn addas ar gyfer merched beichiog a mamau newydd. Mae Ioga yn y dŵr yn ffordd hawdd o ymestyn heb straenio a gormod o ymdrech, tynhau heb effeithio'ch siâp ac ymlacio trylwyr. Mae dŵr yn gysurus ac yn sbarduno'r corff i'ch helpu i baratoi ar gyfer genedigaeth, yn enwedig genedigaeth yn y dŵr. Bydd mamau newydd yn elwa ar ymaferion syml a fydd yn helpu i wella llawr y pelfis.)

Dydd Mercher 

1.00pm - 1.45pm: Ffitrwydd ôl-enedigol (Sesiwn ymarfer corff mewn grŵp. Ymarferion yn seiliedig ar weithgareddau a fydd o fudd i famau mewn bywyd o ddydd i ddydd. Caiff mamau eu hannog i ddod â'u babi gyda nhw gan fod modd eu cynnwys yn y sesiwn. Ffordd wych o gamu yn ôl i ffitrwydd a threulio amser gwerth chweil gyda'ch babi.)

 

Pwll Nofio y Ddraenen Wen (cliciwch yma am y daflen) -- Dyddiadau: 16 Ebrill - 21 Mai.

Dydd Mawrth

5.30pm - 6.15pm: Ioga dŵr i fenywod beichiog gyda Bydwragedd Cymunedol (o 24 wythnos).

 

Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda (cliciwch yma am y daflen) -- Dyddiadau: 11 Ebrill - 23 Mai.

Dydd Iau

6.00pm - 6.45pm: Ioga dŵr i fenywod beichiog gyda Bydwragedd Cymunedol (o 24 wythnos).

 

Gwybodaeth dosbarth

Cadwch le trwy ap Hamdden am Oes neu ffoniwch y canolfannau hamdden ar y rhifau cyswllt isod. Mae modd cadw lle 8 diwrnod ymlaen llaw.

  • Canolfan Hamdden Sobell - 01685 870111
  • Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen - 01443 842873
  • Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda - 01443 570011

 

 

Manteision cadw'n heini yn ystod ac ar ôl beichiogrwydd

Mae cynifer o fanteision i ymarfer corff yn ystod beichiogrwydd. Helpu â sgîl effeithiau fel poen yn y pelfis a'r cefn, cramp a thraed wedi'u chwyddo. Helpu i chi gysgu'n well. Mynnwch gipolwg ar y cyngor a'r cymorth yma. Am gefnogaeth, lawrlwythwch ein taflen.

Ar ôl beichiogrwydd.. Helpu â gwellhad cyflymach a rhoi'r cyfle i chi gymdeithasu â mamau newydd eraill! Mynnwch gipolwg ar y cyngor a'r cymorth yma. Am gefnogaeth, lawrlwythwch ein taflen.

Llwybrau cerdded sy'n addas i bramiau

Rydyn ni wedi ffilmio'r llwybrau cerdded canlynol sy'n addas i bramiau, er mwyn hyrwyddo llwybrau sy'n berffaith ar gyfer mamau newydd. 

Rhondda

 

Cynon

 

Taf

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas