Skip to main content
 

Cerdded RhCT

Yn 2019, daeth sefydliad Dewch i Gerdded Cymru, a oedd yn cefnogi, yswirio a hyfforddi grwpiau cerdded yng Nghymru, i ben. Fe adawodd hyn grwpiau cerdded newydd a phresennol yn Rhondda Cynon Taf yn agored i niwed. Felly, er mwyn mynd i'r afael â hynny, rydyn ni wedi sefydlu Cerdded RhCT.

Mae Cerdded RhCT yn gynllun fydd yn cefnogi grwpiau cerdded newydd a phresennol yn RhCT drwy ddarparu cymorth i wirfoddolwyr sy'n Arweinwyr Cerdded. Yn rhan o'r cynllun, byddwn ni'n cynnig y canlynol i arweinwyr cerdded:

  • Hyfforddiant Arweinydd Cerdded
  • Yswiriant
  • Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) am ddim
  • Gwobrau a chymhellion cynllun gwirfoddoli Chwaraeon RhCT
  • Cymorth ynglŷn â marchnata
  • Help a chyngor

 

Gofynion allweddol y cynllun

Er mwyn derbyn y gefnogaeth yma, rydyn ni angen i arweinwyr grŵp fodloni'r gofynion canlynol:

  1. Bydd angen i arweinwyr gofrestru'n wirfoddolwyr gyda Chwaraeon RhCT a mynychu cwrs hyfforddi blynyddol.
  2. Rhaid i arweinwyr fod dros 18 oed a rhaid iddyn nhw feddu ar dystysgrif Cymorth Cyntaf dilys.
  3. Rhaid cyflwyno cofrestrau i Chwaraeon RhCT bob chwe mis.
  4. Cymhareb o 1 arweinydd i 20 cyfranogwr ar bob taith gerdded.
  5. Rhaid i deithiau cerdded bara tua 2 awr a chael eu cynnal ar dir gwastad â risg isel.

Cliciwch yma er mwyn darllen y gofynion llawn.

 

Sut i ymuno â'r cynllun

Os ydych chi'n rhan o grŵp cerdded sy'n bodoli'n barod neu os hoffech chi gymorth i sefydlu grŵp cerdded newydd, anfonwch e-bost aton ni, Chwaraeonrhct@rctcbc.gov.uk. Byddwn yn cwrdd â chi i drafod y cynllun a chwblhau'r broses gofrestru.

 
Facebook-logo
Twitter-Logo-Sport-RCT
Instas
Instas