Cynllun Cymhelliant yw Clwb 100 Chwaraeon RhCT a gafodd ei greu i gydnabod a gwobrwyo'r bobl sy'n helpu i sicrhau bod chwaraeon yn mynd yn eu blaen ar draws Rhondda Cynon Taf. Mae gwirfoddolwyr yn rhoi'u hamser i hyfforddi, golchi gwisgoedd chwaraeon, eistedd ar bwyllgorau a helpu gyda phob dyletswydd arall sydd ei hangen yn ein clybiau, ysgolion a sesiynau yn y gymuned- rydyn ni'n eich herio chi i gwblhau 100 awr ac ymuno â Chlwb 100 Chwaraeon RhCT!
Pam cymryd rhan?
Mae gwirfoddoli yn rhoi boddhad i bawb ac rydyn ni'n cynnig llwyth o gymhelliannau i'ch diolch chi am eich amser. Ar ôl cofrestru'n Wirfoddolwr ar ran Chwaraeon RhCT, bydd raid i chi ddechrau gwirfoddoli mewn sesiwn wedi'i drefnu i elwa ar y cymhelliannau canlynol:
- Cyrsiau a sesiynau hyfforddi am ddim
- Gwisg Chwaraeon Rhondda Cynon Taf
- Offer
- Gwobr Gwirfoddoli Clwb 100 Chwaraeon RhCT
- Rhoi hwb i'ch CV gydag argymhelliad Chwaraeon RhCT
- Llwybr i'n Carfan Hyfforddi
- Enwebiadau Gwirfoddolwr y Mis
Ble mae modd gwirfoddoli?
Mae rhaid i'ch oriau gwirfoddoli gael eu cadarnhau gyda ni cyn i chi ddechrau; does dim ots pa brofiad sydd gyda chi, byddwn ni'n dod o hyd i sesiwn ar eich cyfer er mwyn i chi chwarae rhan. Os oes gyda chi gyfle gwirfoddoli yn barod, bydd raid i ni gadarnhau'ch rôl gyda mentor cyn i ni ddechrau cyfrif eich oriau.
Sut mae modd cofrestru?
I gofrestru'n Wirfoddolwr ar ran Chwaraeon RhCT; cliciwch YMA.
Beth Nesaf?
- Cytuno eich swydd wirfoddol gyda ni cyn dechrau.
- Dilyn eich oriau drwy ddefnyddio un o'n ffurflenni amser Clwb 100 Chwaraeon Rhondda Cynon Taf
- Manteisiwch ar ein gwobrau ar ôl 25, 50, a 100 o oriau.